Mae osteoporosis yn glefyd ar yr asgwrn lle mae llai o ddwysedd mwynau esgyrn, gan gynyddu'r tebygolrwydd o doriadau. Mae Osteoporosis yn cael ei ddiffinio gan Sefydliad Iechyd y Byd mewn menywod fel dwysedd mwynol esgyrn 2.5 gwahaniaethau safonol islaw màs yr asgwrn brig, o'i gymharu â'r oedran a chyfartaledd rhyw, sy'n cael ei fesur gan amsugnidiometreg pelydr-X ynni deuol, gyda'r term "osteoporosis sefydledig" gan gynnwys presenoldeb toriad bregus. Mae Osteoporosis yn fwy cyffredin mewn menywod ar ôl y menopos, pan ei gelwir yn "osteoporosis postmenopawsol", ond gall ddatblygu mewn dynion a menywod cyn-menopawsal ym mhresenoldeb anhwylderau hormonaidd penodol a chlefydau cronig eraill neu o ganlyniad i ysmygu a meddyginiaethau, yn benodol glwcocrticoidau. Fel rheol nid oes gan Osteoporosis unrhyw symptomau nes bydd toriad yn digwydd. Am y rheswm hwn, mae sganiau DEXA yn cael eu gwneud yn aml mewn pobl ag un neu fwy o ffactorau risg, sydd wedi datblygu osteoporosis ac sydd mewn perygl o dorri.

Osteoporosis
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd adamsugniad asgwrn, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Achosion

golygu

Mae esgyrn ar eu mwyaf trwchus a chryf yn ystod bywyd cynnar oedolyn. O tua 35 oed ymlaen, mae mwy o gelloedd esgyrn yn cael eu colli nag sy’n cael eu hadfer. Mae hyn yn peri i'r esgyrn fynd yn deneuach ac yn wannach. Mae pobl sy'n ymarfer pan eu bod yn ifanc ac yn aros yn fywiog mewn henaint yn llai tebygol o gael osteoporosis. Mae hyn am fod esgyrn yn aros yn gryf pan gânt eu defnyddio.

Menywod

golygu

Mae menywod mewn mwy o berygl o ddatblygu osteoporosis na dynion. Mae hyn oherwydd y lleihad yn yr hormon oestrogen ar ôl diwedd y mislif, sy'n hanfodol i esgyrn iach. Mae menywod mewn mwy o berygl o ddatblygu osteoporosis pan:

  • gyrhaeddant ddiwedd y mislif yn gynnar (cyn 45 oed)
  • gânt hysterectomi cyn 45 oed, yn enwedig pan dynnir yr ofarïau hefyd
  • mae eu mislif yn absennol am amser hir (mwy na chwe mis) o ganlyniad i orymarfer a gor-ddeietio

Dynion

golygu

Mae'r hormon gwrywaidd testosteron hefyd yn helpu i gadw'r esgyrn yn iach. Mae dynion yn parhau i gynhyrchu'r hormon hwn wrth heneiddio, ond mae'r risg o osteoporosis yn cynyddu mewn unigolion gyda lefelau testosteron isel.

Symptomau

golygu

Mae osteoporosis yn gyflwr sy'n datblygu'n araf dros nifer o flynyddoedd. Nid yw'r symptomau'n amlwg yng nghyfnodau cynnar y cyflwr a gall gymryd misoedd neu flynyddoedd i ymddangos. Gall yr arwyddion rhybuddiol cynnar o osteoporosis gynnwys poenau yn y cymalau a chael anhawster i sefyll neu eistedd yn syth. Efallai na fydd unrhyw rybudd cyn i gwymp dibwys neu ardrawiad sydyn beri i asgwrn dorri. Pan fydd yr esgyrn wedi teneuo'n sylweddol (màs asgwrn isel), mae toriadau'r arddwrn, y glun neu esgyrn y cefn (fertebrâu) yn fwyaf cyffredin. Gall pesychu neu disian beri i asen dorri, neu i un o esgyrn yr asgwrn cefn gwympo'n rhannol. Gall asgwrn wedi torri mewn person hŷn fod yn ddifrifol oherwydd ni all yr asgwrn bellach ei atgyweirio ei hun yn effeithiol. Gall hyn arwain at arthritis a hyd yn oed anabledd, fel problemau tymor hir gyda symudedd. Gallai rhai pobl hŷn fethu â byw'n annibynnol yn dilyn anaf. Mae'r crymu gwar nodweddiadol (crymu ymlaen) sy'n gyffredin mewn pobl hŷn yn arwydd gweladwy o osteoporosis. Mae'n digwydd pan fydd esgyrn yn yr asgwrn cefn wedi torri (wedi cracio), gan ei gwneud yn anodd cynnal pwysau'r corff..[1]

Diagnosis

golygu

Yn aml ni chaiff osteoporosis ei ddiagnosio nes bydd gwanhad yr esgyrn yn achosi asgwrn wedi torri.


Cyfeiriadau

golygu
  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)