Gwasanaeth e-bost, cysylltiadau, tasgau, calendrau a gwasanaethau gan gwmni Microsoft yw Outlook. Fe'i sefydlwyd yn 1996 fel Hotmail gan Sabeer Bhatia a Jack Smith yn Mountain View, Califfornia. Prynwyd Hotmail gan Microsoft ym 1997 ar gyfer tua $400 miliwn a lansiwyd fel MSN Hotmail. Gwnaeth Microsoft rhyddhau fersiwn terfynol Hotmail ym mis Hydref 2011. Cafodd Hotmail ei ddisodli gan Outlook.com yn 2013. Yn 2015, roedd gan Outlook.com 400 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol. Mae'r gwasanaeth ar gael mewn llawer iaith gan gynnwys Cymraeg.

Outlook.com
Sefydlwyd4 Gorffennaf 1996
PerchnogionMicrosoft
Gwefanhttps://outlook.live.com/ Edit this on Wikidata

Fel llawer o wasanaethau ebost rhad ac am ddim, roedd Hotmail yn aml yn cael ei ddefnyddio gan sbamwyr ar gyfer ddibenion anghyfreithlon megis gwe-rwydo, post sothach, post cadwyn. Newidiodd Hotmail ei delerau gwasanaeth i nodi y byddai unrhyw gyfrif a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon yn cael ei derfynu heb rybudd.