Yn y gêm pêl-fasged, mae dau dîm, gyda phump o chwaraewyr ar bob ochr. Maent yn ceisio ennill pwytiau drwy daflu pêl trwy'r fasged, sydd deg troedfedd o'r llawr yn ôl y rheolau. Hwn yw un o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd.

Pêl-fasged
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, chwaraeon olympaidd, difyrwaith Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon peli, chwaraeon tîm, throwing game, gêm o sgil Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfodRhagfyr 1891 Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluRhagfyr 1891 Edit this on Wikidata
Hyd56 munud, 40 munud, 32 ±1 munud, 12 munud Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Carl English yn ceisio pasio amddiffyniad Zoran Dragić mewn gêm bêl-fasged rhwng Estudiantes a Málaga (82-68) yng nghyngrair Sbaen: y Liga ACB

Enillir pwyntiau drwy basio'r bêl drwy'r fasged ar ei lawr; y tîm a'r nifer mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm yw'r tîm buddugol. Gall y bêl deithio ymlaen ar y cẅrt drwy ei fownsio, driblo, neu ei basio nôl ag ymlaen rhwng aelodau o'r tîm. Ni chaniateir dod mewn cyswllt ag eraill (Saesneg: foul) ac mae rheolau llym ynglŷn â sut ddylir ymdrin â'r bêl.

Mae Pêl fasged wedi datblygu i gynnwys nifer o dechnegau cyffredin megis saethu, pasio a driblo, yn ogystal â safleoedd y chwaraewyr a strwythrau chwarae ymosodol ac amddiffynnol. Tra bod Pêl fasged cystadleuol wedi ei reoli yn ofalus, mae nifer fawr a amrywiaethau ar y gêm iw gael ar gyfer chwarae hamdden. Mewn rhai gwledydd mae Pêl fasged hefyd yn êm wylwyr boblogaidd.

Tra bod Pêl fasged cystadleuol yn êm mewnol yn bennaf, gan gael ei chwarae ar gwrt, mae nifer o amrywiaethau ar y gêm yn cael eu chwarae tu allan mewn dinasoedd mawr ac mewn cymunedau gwledig.

Michael Jordan yn chwarae pêl-fasged
Pêl-fasged (eiliadau)
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-fasged. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.