Gêm a chwaraeir rhwng dau chwaraewr yw Pêl-law, sy'n un o gampau Gemau Olympaidd. Mae'n eitha tebyg i bêl-droed 5-bob-ochor, gyda dwy gôl, ond fod y bêl yn cael ei daro gyda'r llaw, yn hytrach na'i gicio.

Pêl-law
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon tîm, chwaraeon peli Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1915 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arferid chwarae gêm o'r un enw yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru, ac mae'n dal i gael ei chwarae - yn ddi-dor ers sawl canrif - mewn ardaloedd fel Nelson, Caerffili.[1] Dau chwaraewr sy'n chwarae'r Pêl-law Cymreig, fodd bynnag, a wal yn hytrach na goliau.

Ymosodwr yn barod i daflu'r bêl tua'r gôl

Disgrifiad o bêl-law modern golygu

Ceir dau gyfnod o 30 munud yr un a'r tîm sy'n sgorio fwyaf o goliau sy'n curo. Mae'r cwrt yn mesur 40 wrth 20 mettr (131 x 66 tr), gyda gôl ym mhob pen. Ceir parth 6-metr o gwmpas pob gôl - a dim ond y gôl geidwad gaiff fynd i'r parth hwn. Sgorir gôl drwy daflu'r bêl i mewn i'r gôl o du allan y parth, neu wrth "neidio" i mewn i'r parth. Y tu fewn y chwaraeir y gêm fel arfer.

Mae'r gêm yn cael ei chwarae'n sydyn iawn ac mae nifer y goliau fel arfer rhwng 20 - 35. Caniateir cyffwrdd wrth i'r amddiffynwyr geisio atal yr ymosodwyr rhag sgorio.

Fideo o bêl-law

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Saesneg y BBC; Pel-Law, Wales's forgotten sport: 'Just a ball and a wall'