Nelson, Caerffili

pentref a chymuned yng Nghaerffili

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Nelson[1][2] neu (yn wreiddiol) Ffos y Gerddinen. Saif bum milltir i'r gogledd o dref Pontypridd.

Nelson
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,647, 4,472 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,098.63 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTreharris Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6513°N 3.2806°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000739 Edit this on Wikidata
Cod OSST115995 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHefin David (Llafur)
AS/au y DUWayne David (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol San Steffan yw Wayne David (Llafur).[3][4]

Ceir prif swyddfa Dŵr Cymru yn Ffos y Gerddinen, ac mae cwrt pêl-law awyr agored yn y pentref, efallai yr unig un o'i fath yng Nghymru.

Tyfodd y pentref ar ddechrau y 19g oherwydd Pwll Glo Llancaiach a Phwll Glo Penallta gerllaw. Lleolir maenor Tuduraidd Llancaiach Fawr ger y pentref.

Roedd Eisteddfod yr Urdd wedi cael ei gynnal ar bwys Llancaiach Fawr yn 2015. Mae'r llwybr Taith Taf, a llwybr 47 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd trwy'r pentref.

Geirdarddiad

golygu

Tarddodd enw'r pentref, Ffos y Gerddinen, o goed gerddinen sy'n tyfu yn yr ardal. Rnwyd tafarn y pentref, The Rowan Tree ("Y Goeden Gerddinen") o'r un goeden. Mae'r enw Saesneg ar bentref Aberpennar, sef "Mountain Ash", yn dilyn yr un patrwm. Cafodd y pentref yr enw "Nelson" o dafarn yno o'r enw "Lord Nelson Inn"; enwyd y dafarn honno ar ôl yr Arglwydd Nelson a ymwelodd â'r lle yn 1803 - dwy flynedd cyn Brwydr Trafalgar.

Sefydliadau Cymunedol

golygu

Yn y pentref mae yna tair eglwys Gristnogol: Yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan y Bedyddiwr (sydd yn Esgobaeth Llandaf a Phlwyf Taf Rhymni), Eglwys y Bedyddwyr, Calfaria, o 1878 ac Eglwys Efengylaidd Bethel a adeiladwyd yn 1974 (yn wreiddiol roedd yn Eglwydd Fethodistiaeth). Roedd yma hefyd gapel yr Annibynwyr, sef Penuel o 1857, a Chapel Methodistiaeth, Salem, o 1859 sydd wedi cau erbyn hyn.

Cafwyd y dathliad Hindŵaidd Durga Puja cyntaf yng Nghymru yn y pentref yn 1972[5].

Sefydlwyd clwb Rygbi'r undeb, y "Nelson Unicorns", yn 1934, ac mae'n chwarae ar y cae rygbi yng nghanol y dref. Mae yna hefyd dîm pêl-droed, sef y "Nelson Cavaliers AFC", a sefydlwyd yn 1972, gan chwarae ar y cae pêl-droed yn y parc.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nelson, Caerffili (pob oed) (4,647)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nelson, Caerffili) (553)
  
12.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nelson, Caerffili) (4171)
  
89.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Nelson, Caerffili) (782)
  
39.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Hindu Durga Puja celebrated in Wales in 1972". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-09.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]