Pab Fformosws
Roedd Fformosws, neu Formosus (m. 896) yn Bab yn Rhufain o 891 hyd ei farwolaeth yn 896.
Pab Fformosws | |
---|---|
Ganwyd | c. 816 Rhufain |
Bu farw | 4 Ebrill 896 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Taleithiau'r Babaeth |
Galwedigaeth | diplomydd, offeiriad Catholig, ysgrifennwr |
Swydd | pab |
Roedd yn bab ymroddgar a gefnogodd y blaid anghywir mewn dadl ddynastig ynglŷn â'r olyniaeth ymerodrol. Wedi iddo farw rhoddwyd ei gorff ar brawf yn y Fatican ac fe'i taflwyd i Afon Tiber gan Pab Steffan VII, pennod warthus yn hanes y Babaeth a elwir Synod y Corff Marw.