Afon Tiber
afon yn yr Eidal
Afon sy'n codi ym mynyddoedd yr Appeninau yn Yr Eidal ac yn llifo i Fôr Tirrenia yw Afon Tiber (Eidaleg: Tevere, Lladin: Tiberis). Ei hyd yw 405 km (252 milltir).
Afon Tiber yn llifo dan Bont Sant Angelo yn Rhufain | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Eidal |
Cyfesurynnau | 43.78692°N 12.07767°E, 41.7406°N 12.2333°E |
Aber | Môr Tirrenia |
Llednentydd | Chiascio, Nera, Aniene, Cremera, Paglia, Allia, Treja, Almone, Q3625623, Farfa, Magliana, Nestore, Q25300635, Naia |
Dalgylch | 17,375 cilometr sgwâr |
Hyd | 405 cilometr |
Arllwysiad | 239 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Lago di Corbara |
Mae'n tarddu ar lethrau deheuol yr Apeninau yn Toscana (Tuscany) ac yn llifo i'r de trwy Umbria a heibio i drefi a dinasoedd hanesyddol fel Sansepolcro, Citta di Castello, Periwgia a Todi. Yn nhalaith Lazio mae'n ymdolenni trwy'r gwastadiroedd eang cyn cyrraedd dinas Rhufain lle mae sawl pont hanesyddol yn ei chroesi. Mae'r afon yn cyrraedd y môr yn Ostia, porthladd hynafol Rhufain.
Roedd yr afon yn dduw yn y pantheon Rhufeinig. Yn ôl traddodiad Albula oedd ei henw gwreiddiol, oherwydd gwynder ei dyfroedd, ond cafodd yr enw Tiberis ar ôl i Tiberinus, brenin Alba, foddi ynddi.