Mae Palas Print yn siop llyfrau Cymraeg ar Stryd Palas yng Nghaernarfon, Gwynedd. Mae'r siop yn gwerthu llyfrau, cryno-ddisgiau a chardiau ar gyfer bob achlysur yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Beth sydd ar gael yn y siop?

golygu

Ceir darpariaeth dda o ffuglen, llyfrau teithio, cofiannau a llenyddiaeth i gerddwyr a dringwyr. Mae cerddoriaeth (y rhan fwyaf yn gerddoriaeth Cymraeg neu werin gyfoes ysbeidiol) yn cael ei chwarae yn y siop i greu awyrgylch cynnes a chroesawgar.

Perchnogion

golygu

Mae Eirian James a'i phartner Selwyn Jones yn gynghorwyr arbenigol, gyda brwdfrydedd arbennig dros ffuglen gyfoes a throseddau rhyngwladol. Hefyd, os nad oes ganddynt eitem mewn stoc, byddant yn ei archebu i chi erbyn y diwrnod canlynol.

Digwyddiadau

golygu

Ymhlith yr ymwelwyr rheolaidd mae Carol Anne Duffy a Gillian Clarke. Yn aml maent yn darllen eu gwaith ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau. Yn aml mae copïau o’i llyfrau barddoniaeth (wedi eu llofnodi) mewn stoc i'w dosbarthu.

Busnes ym Mangor

golygu

Am bum mlynedd roedd Eirian James a’i phartner Selwyn Jones yn berchnogion ar siop Palas Print ym Mangor. Yn anffodus roedd rhaid cau y siop oherwydd nad oedd “yn gynaliadwy” felly gwnaed hyn Ddydd Sadwrn, Ionawr y pedwerydd ar hugain.

Dolen allanol

golygu