Palikur
Pobl frodorol yn Ne America yw'r Palikur. Maent yn byw ar ffin dwyrain Gaiana Ffrengig ac ar bwys yr afon Oyapock. Maen nhw’n siarad yr iaith Arawak. Mae 1,300 person yn y llwyth.
Math o gyfrwng | pobloedd brodorol |
---|---|
Mamiaith | Arawakan |
Label brodorol | Palikur |
Poblogaeth | 1,712, 720 |
Gwlad | Brasil, Guyane |
Enw brodorol | Palikur |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Palikur oedd un o’r llwythau cyntaf i gwrdd a’r archwilwyr o Ewrop yn 1507. Maen nhw’n byw gan bysgota yn bennaf, ond maen nhw’n ffermio ac yn hela hefyd. Manioc, sy’n cael ei ddefnyddio i wneud cacennau fflat a chwrw, yw ei brif cnwd, ond maen nhw hefyd yn tyfu pupur, coed citrig, coffi, mangoau a chotwm. Yn 1950, roeddent yn masnachu croen yr ‘alligator’ oedd yn byw yn yr afonydd, ond diflannodd yr ‘alligator’ o’r afon felly nid oeddent yn gallu cario ymlaen gyda’r fasnach yma.