Urddwisg yn yr Eglwys Gatholig a roddir gan y Pab i archesgob yw'r paliwm (ffurf luosog: palia).[1] Mae'n arwydd o undeb yr archesgob â'r Pab a'i ufudd-dod iddo. Fe'i wisgir hefyd gan esgobion a chanddynt esgobaeth fetropolitan, yn ogystal â'r Pab ei hunan. Stribyn gwlân gwyn a wisgir am yr ysgwyddau ac uwchben y casul yw'r paliwm, a chanddo labed byr neu grogdlws ar y blaen a'r cefn. Câi'r ffurf fodern ei marcio gyda chwe chroes ddu. Daw'r gwlân o ddau oen a roddir i'r Pab yn Eglwys Santes Agnes ar ŵyl y santes honno.[2] Mae'n rhaid i'r archesgob wisgo'r paliwm mewn mannau arbennig y litwrgi, megis yr ordeiniad.

Paliwm
Mathurddwisg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Pab Ioan Pawl II yn gwisgo'r paliwm.

Mae'n debyg i'r paliwn ddatblygu o himation yr hen Roegiaid, a elwid yn pallium gan y Rhufeiniaid. Dilledyn uchaf oedd hwn a wisgir yn fantell neu ei blygu a'i gario dros yr ysgwydd, ac yn enghraifft o wisg arbennig arweinwyr a swyddogion. Dros amser trodd yn ddilledyn cul, yn debyg i sgarff, a chafodd ei fabwysiadu gan y Cristnogion. Mae'r paliwn a roddir gan y Pab yn dyddio'n ôl i'r 6g, a chymerodd ei siâp megis llythyren Y yn y 7g. Ers y 9g mae'n rhaid i'r archesgob dderbyn y paliwm cyn iddo gyflawni'i awdurdod eglwysig, a dim ond yn ei dalaith eglwysig gallai ei wisgo; dim ond y Pab sy'n meddu'r hawl i'w wisgo yn unrhyw fan.[3]

Gwisgir mantell debyg gan esgobion yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a elwir yn omophorion, a wneir o frodwaith sidan neu felfed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, [pallium].
  2. (Saesneg) "Pallium" yn y Catholic Encyclopedia (1911). Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) pallium (ecclesiastical vestment). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.