Pab Ioan Pawl II
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig o 16 Hydref 1978 hyd ei farwolaeth oedd Ioan Pawl II (ganwyd Karol Józef Wojtyła) (18 Mai 1920 – 2 Ebrill 2005). Yn enedigol o Wlad Pwyl, ef oedd y pab cyntaf o'r tu allan i'r Eidal ers dros 450 o flynyddoedd.
Pab Ioan Pawl II | |
---|---|
Ffugenw | Andrzej Jawień, Stanisław Andrzej Gruda, Piotr Jasień |
Ganwyd | 18 Mai 1920 Wadowice |
Bu farw | 2 Ebrill 2005 Palas y Fatican, Rhufain |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl, y Fatican, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl |
Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, athro cadeiriol, transitional deacon, latin catholic deacon, archesgob, esgob Catholig |
Swydd | esgob er anrhydedd, pab, Archesgob Cracof, esgob ategol, esgob er anrhydedd, cardinal |
Cyflogwr | |
Dydd gŵyl | 22 Hydref |
Mam | Emilia Wojtyła |
Gwobr/au | Urdd Aur yr Olympiad, Order of Bethlehem, Medal Aur y Gyngres, Gwobr Siarlymaen, Medal Rhyddid yr Arlywydd, dinesydd anrhydeddus Nieszawa, Order of Tomáš Garrigue Masaryk, 1st class |
llofnod | |
Yn ddyn ifanc, fe ddioddefodd yn arw iawn o dan y Natsïaid, gan gael ei ddanfon i dorri cerrig mewn chwarel lle roedd y tymheredd yn aml yn 30 gradd selsiws o dan y rhewbwynt. Wedi iddo ddod yn offeiriad, byddai'n gwrthdaro'n aml ag awdurdodau Comiwynddol Gwlad Pwyl. Yn geidwadwr traddodiadol o ran ei grefydd, byddai'n manteisio ar bob math o gyfryngau modern i ledaenu ei neges.
Bu farw yn 84 oed.[1] Cafodd cerflun ohono ei ddadorchuddio yn Piazza dei Cinquecento, o flaen gorsaf rheilffordd Termini yn Rhufain, yn 2011.
Ar 27 Ebrill 2014 gwnaed Ioan Pawl II, ynghyd â Phab Ioan XXIII, yn sant gan Bab Ffransis.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The New York Times (19 Medi 2005). "Vatican Releases Official Record of Pope John Paul II's Final Days". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Ionawr 2018.
- ↑ (Saesneg) Vatican declares Popes John Paul II and John XXIII saints. BBC (27 Ebrill 2014). Adalwyd ar 27 Ebrill 2014.
Rhagflaenydd: Ioan Pawl I |
Pab 16 Hydref 1978 – 2 Ebrill 2005 |
Olynydd: Bened XVI |