Panic! at the Disco
Mae Panic! at the Disco yn fand roc o'r Unol Daleithiau o Las Vegas, Nevada, a ffurfiwyd yn 2004 gan ffrindiau plentyndod Brendon Urie, Ryan Ross, Spencer Smith a Brent Wilson. Ers 2015, Urie, sef lleisydd y grwp, yw'r unig aelod swyddogol. Mae'r drymiwr Dan Pawlovich, baswr Nicole Row a gitarydd Mike Naran yn teithio gyda Urie ac yn perfformio'n byw gydag e. Cafodd albwm stiwdio cyntaf y band, A Fever You Can't Sweat Out, ei rhyddhau yn 2005 a cafodd ei poblogeiddio gan ei ail sengl, sef "I Write Sins Not Tragedies". Cafodd yr albwm ei ardystio yn double platinum yn yr UDA.
Enghraifft o'r canlynol | band, solo project |
---|---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Label recordio | Fueled By Ramen, DCD2 Records, Crush Management |
Dod i'r brig | 2004 |
Dod i ben | 2023 |
Dechrau/Sefydlu | 2004 |
Genre | roc poblogaidd, synthpop, pop-punk, baroque pop, emo pop, roc amgen |
Yn cynnwys | Brendon Urie, Brent Wilson, Ryan Ross, Jon Walker, Spencer Smith, Dallon Weekes |
Gwefan | https://panicatthedisco.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ardull gerddorol
golyguMae Panic! at the Disco yn enwog am newid ei ardull gerddorol gyda pob albwm, er enghraifft mae ei albwm 2008 Pretty. Odd]] yn cael ei weld fel albwm roc gwerin, tra bod ei albwm 2018 Pray for the Wicked gyda dylanwad mwy roc baróc. Mae rhai o'r arddulliau eraill a defnyddiwyd gan y band yn cynnwys roc poc, pop, pop pync, electropop, roc amgen ac emo.
Aelodau'r band
golyguAelodau cyfredol
golyguBrendon Urie - lleisiau arweiniol, gitâr, piano, bysellfwrdd (2004-presennol); gitâr bas (2005-2010, 2015-presennol); drymiau (2015-presennol)
Cyn aelodau
golygu- Ryan Ross - gitâr arweiniol, lleisiau, piano, bysellfwrdd, syntheseinydd (2004-2009); lleisiau arweiniol (2004)
- Spencer Smith - drymiau, offerynnau taro (2004-2015; anweithgar 2013-2015)
- Brent Wilson - gitâr bas (2004-2006)
- Jon Walker - gitâr bas, lleisiau, piano, bysellfwrdd, gitâr (2010-2015; aelod teithiol 2009-2010, 2015-2017)
- Dallon Weekes - gitâr bas, lleisiau, piano, bysellwrdd, gitâr (2010-2015; aelod teithiol 2009-2010, 2015-2017)
Disgyddiaeth
golygu- A Fever You Can't Sweat Out (2005)
- Pretty. Odd (2008)
- Vices & Virtues (2011)
- Too Weird to Live, Too Rare to Die (2013)
- Death of a Bachelor (2016)
- Pray for the Wicked (2018)
- Viva Las Vengeance (2022)