Las Vegas
Mae Las Vegas yn ddinas fawr yn nhalaith Nevada, yr Unol Daleithiau (UDA), a chaiff ei ystyried yn brifddinas gamblo'r byd. Daw'r enw Las Vegas o'r Sbaeneg a'i ystyr yw "Y Dolydd". Mae'r ddinas boblog hon hefyd yn enwog am ei siopau a'r adloniant a geir yno. Mae Las Vegas, sy'n gwerthu ei hun fel Prifddinas Adloniant y Byd, yn enwog am y nifer o gasinos ac adloniant cysylltiedig. Dyma yw'r 28ain ddinas fwyaf boblog yn yr Unol Daleithiau, gyda thua 603,093 yn ôl Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 2008.[1] Mae gan ardal fetropolitanaidd Las Vegas boblogaeth amcangyfrifedig o 1,836,333 yn 2007.[2]
Las Vegas
| |
---|---|
Lleoliad Las Vegas | |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Ardal | Nevada |
Llywodraeth
| |
Awdurdod Rhanbarthol | Rheolwr Cynghorol |
Maer | Oscar B. Goodman |
Pencadlys | |
Daearyddiaeth
| |
Arwynebedd | 131.3 milltir sgwâr (340.0 km2); |
Uchder | 610 m |
Demograffeg
| |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2007) | 599,087 |
Dwysedd Poblogaeth | 4,154/ milltir sgwâr) /km2 |
Metro | 1,836,333 |
Gwybodaeth bellach
| |
Cylchfa Amser | PST (UTC−8) Haf (DST) PDT (UTC−7) |
Cod Post | 702 |
Gwefan | Dinas Las Vegas Nevada |
Cafodd Las Vegas ei sefydlu ym 1905 a daeth yn ddinas swyddogol ym 1911. Yn sgil y twf a ddilynodd, erbyn diwedd y ganrif Las Vegas oedd y ddinas fwyaf poblog a sefydlwyd yn yr 20g. Oherwydd natur oddefgar y dinasyddion tuag at amrywiaeth o adloniant i oedolion, cafodd y ddinas y teitl "Sin City", ac mae'r ddelwedd hon wedi gwneud Las Vegas yn lleoliad poblogaidd iawn ar gyfer ffilmiau a rhaglenni teledu. Gwelir arddangosfeydd goleuadau ymhob man ar Strip Las Vegas ac maent i'w gweld mewn mannau eraill yn y ddinas hefyd. O'r gofod, ardal fetropolitanaidd Las Vegas yw'r mwyaf goleuedig ar y blaned.[3]
Hanes
golyguCeir yr adroddiad cyntaf o berson o dras Ewropeaidd yn ymweld â'r dyffryn pan aeth Raphael Rivera yno ym 1829. Enwyd Las Vegas gan y Sbaenwyr Antonio Armijo. Defnyddiasant y dŵr o'r ardal wrth deithio i'r gogledd a'r gorllewin ar hyd yr Hen Lwybr Sbaenaidd o Texas. Yn ystod y 1800au, roedd ffynhonnau dŵr niferus yn Nyffryn Las Vegas a ddyfrhaodd ddolydd (vegas yn Sbaeneg), gan arwain at yr enw Las Vegas.
Teithiodd John C. Frémont i Ddyffryn Las Vegas ar y 3ydd o Fai, 1844, pan oedd yn dal yn rhan o Fecsico. Roedd Frémont yn arweinydd grŵp o wyddonwyr, sgowtiaid ac arsylwyr o Gorfflu Peirianwyr Byddin yr Unol Daleithiau. Ar y 10fed o Fai, 1855, danfonodd Brigham Young 30 o genhadon o'r Eglwys Formonaidd o dan arweiniad William Bringhurst i'r ardal er mwyn troi'r Indiaid Paiute i Formoniaeth. Adeiladwyd amddiffynfa ger canol y ddinas bresennol, lle arferai teithwyr rhwng Salt Lake a San Bernardino, Califfornia aros. Fodd bynnag, gadawodd y Mormoniaid Las Vegas ym 1857. Roedd Las Vegas yn rhan o Sir Lincoln tan 1909 pan ddaeth yn rhan o Sir Clark, a oedd yn fwy o faint a newydd ei sefydlu. Sefydlwyd Eglwys Gatholig Santes Joan d'Arc ym 1910. Daeth Las Vegas yn ddinas swyddogol ar 16 Mawrth, 1911.
Cyfreithlonwyd hapchwarae yn y ddinas ar yr 19eg o Fawrth, 1931. Ar y 26ain o Ragfyr, 1946, agorodd Bugsy Siegel y Gwesty Flamingo yn Paradise, yn yr ardal a fyddai'n cael ei adnabod yn ddiweddarach fel Strip Las Vegas. Cwblhawyd Argae Hoover ar y 9fed o Hydref, 1936 y tu allan i Ddinas Boulder a chynhaliwyd arbrofion niwclear ar safle Profi Nevada yn Sir Nye o 1951 tan 1962. Dechreuodd cyfnod y casinos enfawr yn Sir Clark ar yr 22ain o Dachwedd, 1989, pan agorodd The Mirage.
Dechreuodd Las Vegas ei bywyd fel man aros dros dro ar gyfer teithwyr a oedd yn mynd i'r gorllewin, a daeth yn dref rheilffordd boblogaidd ar ddechrau'r 1900au. Roedd yn fan cychwyn ar gyfer yr holl byllau mwyngloddio yn yr ardal, yn enwedig o amgylch tref Bullfrog, lle arferent allforio'u nwyddau i weddill y wlad. Gyda thwf ym myd y rheilffyrdd, daeth Las Vegas yn llai pwysig, ond pan gwblhawyd yr Argae Hoover ym 1935, gwelwyd cynnydd yn nhrigolion yr ardal ac mewn twristiaeth. Yr argae hwn, sydd wedi'i lleoli 30 milltir i'r de-ddwyrain o'r ddinas, a ffurfiodd Llyn Mead hefyd, sef y llyn a'r argae a grëwyd gan ddyn, fwyaf yn y byd. Pan gyfreithlonwyd hapchwarae ym 1931, arweiniodd hyn ar agoriad y gwestai-casino mae Las Vegas yn enwog amdano. Gellir priodoli llwyddiant cychwynnol y busnesau casino yn y ddinas i droseddau trefnedig Americanaidd. Cawsai'r mwyafrif o'r casinos mawr gwreiddiol eu rheoli neu'u hariannu gan aelodau'r giwed fel Benjamin "Bugsy" Siegel, Meyer Lansky neu bobl bebyg. Pan ddaeth y biliwnydd Howard Hughes i'r ddinas ar ddiwedd y 1960au, prynodd nifer o westai-casino a gorsafoedd teledu yn y ddinas, a dechreuodd corfforaethau cyfreithiol brynu gwestai-casino hefyd, ac yn raddol gwthiwyd y giwed o'r ddinas gan y llywodraeth ffederal dros y blynyddoedd nesaf. Daeth y llif parhaus o ddoleri wrth dwristiaid ag incwm i'r ddinas ynghyd â'r ffaith i Ganolfan Awyrlu Nellis gael ei sefydlu yno. Yn sgil y gweithwyr milwrol a'r bobl a ddaeth i weithio yn y casinos, dechreuodd dwf adeiladu yno sy'n parhau tan heddiw.
Gefeilldrefi Las Vegas
golyguGwlad | Dinas |
---|---|
De Corea | Ansan |
De Corea | Dinas Jeju |
Tsieina | Huludao |
Gwlad Tai | Phuket |
Pilipinas | Dinas Angeles |
Twrci | Pamukkale |
Dolenni Allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg)"Subcounty population estimates: Nevada 2000-2007"[dolen farw] (CSV). Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, Adran Boblogaeth. 2007-07. Adalwyd 2008-09-16.
- ↑ (Saesneg)"Clark County population estimate for 2007".[dolen farw] Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. 2007-01-07. Adalwyd 2008-12-04.
- ↑ Anhysbys."The Extent of Urbanization in the Southwest As Viewed from Space". Archifwyd 2009-05-08 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 9-7-2008.