Panspermia (yn llythrennol "Hadu'r cyfan") yw'r ddamcaniaeth astrofiolegol fod bywyd ar y Ddaear wedi dod ar y dechrau o'r gofod.

Panspermia

Cynigiwyd y ddamcaniaeth ddadleuol am y tro cyntaf gan yr astroffisegwyr Fred Hoyle a Chandra Wickramasinghe. Dadleuant fod bywyd cyntefig wedi cyrraedd y ddaear tua 3,500,000,000 o flynyddoedd yn ôl yn ffurf meicrobiau a gludir gan gomedau ar draws y bydysawd. Trwy estyniad gellid dadlau bod y broses yn un barhaol a bod planedau aneirif ledled y bydysawd yn cael eu hadu fel hyn.

Er i'r syniad gael ei ddilorni gan y mwyafrif o wyddonwyr ar y pryd, erbyn hyn mae gwyddonwyr yn dechrau ailasesu Panspermia yng ngoleuni gwybodaeth newydd am allu meicro-organebau i oroesi mewn amgylchiadau eithafol; mae rhai bacterii yn gallu goroesi am filiynau o flynyddoedd mewn rhew neu garreg, er enghraifft.

Dolen allanol golygu