Corff cymharol fychan sy'n cylchdroi o amgych yr Haul mewn cylchdro eliptig yw comed neu seren gynffon (hefyd: seren farfog, seren gynffonog a 'seren bengrech'). Gall ei deunydd gynnwys creigiau, rhew a nwy; cyfeirir atynt weithiau fel "peli eira budur". Pan ddaw comed yn ddigon agos at yr haul, cynhesir ei deunydd cymaint fel ei bod yn creu niwlen (coma) o nwyon o'i hamgylch, a gall hwn ymffurfio'n gynffon sydd bob amser yn pwyntio i ffwrdd oddi wrth yr haul, ac sy'n creu ffurf draddodiadol comed.

Comed
Enghraifft o'r canlynolmath o wrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Mathcorff neu wrthrych bychan yng Nghysawd yr Haul Edit this on Wikidata
Rhan osystem blanedol Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscomet nucleus, coma, comet tail Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nodweddion corfforol comed:
a) Niwclews, b) Niwlen, c) Cynffon ïonau, d) Cynffon lwch, e) Amdo hydrogen, f) Cyfeiriad cyflymder orbitol, g) Cyfeiriad at yr Haul.
Comed Hale-Bopp (1997)

Gall cnewyllyn y gomed amrywio o un i 50 km ar draws, gyda'r coma yn ymestyn dros 100,000-1,000,000 km; pan ffurfir cynffon, gall ymestyn am filiynau lawer o gilomedrau.

Yn 1932 damcanodd Ernst Julius Öpik fod comedau yng Nghysawd yr Haul yn ymffurfio mewn cwmwl o lwch a mater arall y tu hwnt i gylchdro'r blaned gorrach Plwton. Enwir y cwmwl hwnnw yn Gwmwl Oort (neu Cwmwl Öpik-Oort). Ystyrir Gwregys Kuiper, rhanbarth ar ffurf disg y tu hwnt i gylchdro Neifion rhyw 30-50 unedau seryddol o bellter oddi wrth yr Haul (sy'n cynnwys llawer iawn o gyrff rhewllyd bychain) fel tarddle comedau cyfnod byr.

Comedau enwog

golygu