Ffurf o anhwylder meddwl yw paranoia. Mae unigolion â pharanoia yn credu bod eraill yn eu herbyn mewn rhyw ffordd. Boed hynny oherwydd eu bod credu eu bod yn hel straeon amdanynt, yn ceisio eu brifo’n gorfforol neu’n ceisio’u twyllo o’u harian. Gall paranoia eich argyhoeddi’n llwyr ac felly anodd yw gwybod pryd i ymddiried yn yr hyn rydych yn ei gredu.

Paranoia
Enghraifft o'r canlynolafiechyd meddwl Edit this on Wikidata
Mathschizophrenia spectrum disorder, symptom niwrolegol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebpronoia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyma rai enghreifftiau o feddyliau paranoiaidd:

  • ‘Mae fy nghyd-letywyr yn siarad yn fy nghefn i o hyd’.
  • ‘Bydd fy athro’n rhoi marciau isel i mi ar fy arholiad yn fwriadol, gan nad yw’n fy hoffi i’.
  • ‘Mae'r Llywodraeth yn ceisio fy lladd i.’

Yr hyn sy’n gwneud y meddyliau uchod yn ‘baranoiaidd’ yn hytrach na’n feddyliau gwir yw nad oes ffeithiau neu dystiolaeth i gefnogi’r meddyliau hyn. Felly, os ydych yn clywed eich cyd-letywyr yn siarad yn eich cefn, nid ydych yn profi paranoia ac mae eich cyd-letywyr yn bod yn gas.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Paranoia". meddwl.org. 2017-02-28. Cyrchwyd 2022-05-04.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Hypomania a Mania ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall