Parc Gwledig Colemere
Mae Parc Gwledig Colemere yn Barc Gwledig yn Swydd Amwythig]], nid yn bell o Ellesmere. Mae llyn, choetir a dolydd ac mae Camlas Llangollen yn ffurfio ffin gogleddol y parc. Gwelir Gylfinir, Gïach cyffredin, Hwyaden bengoch a Hwyaden lygad-aur ar y llyn.
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.8901°N 2.8405°W |
Gwelir Tegeirian Cors y De, Pig Garan y Weirglodd a Blodyn Llefrith yn y dolydd. Gwelir hefyd Hebogwr a Mursen Las Gyffredin a Lili Ddŵr Fach. Mae’r parc yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a hefyd Safle RAMSAR. Defnyddir y llyn gan Glwb Cychod Colesmere.[1]