Hwyaden bengoch

rhywogaeth o adar
Hwyaden bengoch
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Aythya
Rhywogaeth: A. ferina
Enw deuenwol
Aythya ferina
(Linnaeus, 1758)
Aythya ferina

Mae'r Hwyden bengoch (Aythya ferina) yn hwyaden o faint canolig ac yn aelod o deulu'r hwyaid trochi.

Mae'r ceiliog yn drawiadol gyda'r pen a'r gwddf yn goch, y fron yn ddu a'r cefn a'r ochrau yn llwyd. Lliw brownllwyd sydd ar yr iâr.

Yn ystod y tymor nythu ceir yr Hwyaden bengoch trwy'r rhan fwyaf o ogledd Ewrop a rhannau o Asia. Yn y gaeaf mae'n mudo tua'r de a'r gorllewin, a gellir gweld heidiau o gannoedd gyda'i gilydd ar lynnoedd addas, yn aml gyda hwyaid eraill fel yr Hwyaden gopog.

Maent yn bwydo trwy drochi am blanhigion ar waelod y llyn, ac weithiau ymlusgiaid bychain a hyd yn oed bysgod bychain. Yn aml maent yn bwydo yn ystod y nos.

Ychydig o barau sydd yn nythu yng Nghymru, y rhan fwyaf ar Ynys Môn, ond gellir gweld llawer mwy ohonynt yn ystod y gaeaf.