Parc Treftadaeth Ferrymead

Mae Parc Treftadaeth Ferrymead yn amgueddfa ger Christchurch, ar Ynys y De, Seland Newydd. Agorwyd y rheilffordd gyntaf yn Seland Newydd ym 1863 rhwng Ferrymead a Christchurch.[1]. Ysbrydolwyd y parc gan y rheilffordd, ac mae rheilffordd y parc treftadaeth yn dilyn rhan o’r hen reilffordd. Mae’r parc yn cynnwys adeiladau o’r 1900au cynnar; mae ysgol, eglwys, gorsaf reilffordd, popty, siop argraffu, sinema, swyddfa’r post, bythynod, gefail, stablau, a siopau eraill. Mae tramffordd, awyrennau a cherbydau, ac mae amryw gymdeithasau’n trefnu’r atyniadau gwahanol.[2]

Parc Treftadaeth Ferrymead
Mathamgueddfa awyr agored Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCanterbury Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Cyfesurynnau43.5673°S 172.7022°E Edit this on Wikidata
Map

Cymdeithasau golygu

  • Canolfan Canterbury dros ffotograffiaeth a ffilm hanesyddol
  • Cymdeithas Reilffordd Canterbury
  • Grwp Cludiant Diesel Cyf
  • Cymdeithas Awyrennol Ferrymead Cyf
  • Cymdeithas Clydesdales Ferrymead Cyf
  • Amgueddfa Cludiant Ffordd Ferrymead Cyf
  • Cymdeithas Hanesyddol Post a Theligraff Ferrymead Cyf
  • Cymdeithas Argraffu Ferrymead Cyf
  • Cymdeithas reilffordd 2 droedfedd Ferrymead Cyf
  • Cymdeithas Gwasanaethau Tân Cyf
  • Ffrindiau Brawdliaeth Ferrymead Cyf
  • Clwb rheilffordd fodel Garden City Cyf
  • Cymdeithas Stiwdios Heathcote Cyf
  • Treftadaeth Ieunctid Cyf
  • Clwb Llewod Ferrymead Cyf
  • Cymdeithas Cadwriaeth Radio Seland Newydd (Ferrymead) Cyf
  • Cymdeithas Hanes Gwladol Cyf
  • Cymdeithas Hanesyddol Tramffyrdd Cyf

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y parc treftadaeth
  2. "Gwefan cinch.org.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-24. Cyrchwyd 2018-10-18.

Dolen allanol golygu