Heneb yn Sir Benfro yw Parc y Meirw a leolir ym mhlwyf Llanllawer, cymuned Cwm Gwaun, i'r de o Abergwaun.

Parc y Meirw
Mathaliniad cerrig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.985587°N 4.916007°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM9988035910 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE126 Edit this on Wikidata

Codwyd rhes o feini hirion yno rywbryd yn y cyfnod cynhanesyddol. Credir y bu wyth o feini yn wreiddiol ond dim ond pedwar sy'n dal i sefyll yn cynnwys un o 2.5 metr. Roedd y rhes wreiddiol yn ymestyn am 40 metr.[1]

Parc y Meirw.

Ymgorfforwyd y meini mewn wal fferm. Mae carreg arall yn gorwedd mewn clawdd gerllaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Llundain, 1978), tud. 182.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato