Pasiant Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd Pasiant Cenedlaethol Cymru yng Ngerddi Soffia rhwng 26 Gorffennaf a 7 Awst 1909. Roedd y pasiant yn adrodd hanes Cymru, ac fe'i sgriptwyd gan Arthur Owen Vaughan (Owen Rhoscomyl).

Cerdyn post sy'n hysbysebu Pasiant Cenedlaethol Cymru, Caerdydd

Roedd cast o 5,000 yn perfformio yn y pasiant, gan gynnwys pobl amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.[1] Disgwyliwyd y byddai 300,000 o bobl yn dod i wylio'r pasiant, ond daeth llai na 200,000, ac fe wnaed colled o £2,054.[2]

  • Ficer Aberpegwm fel 'Dewi Sant'
  • Lewis Morgan (Maer y Ddinas) fel 'Hywel Dda'
  • Lord Tredegar fel 'Owen Glyndwr'
  • Lady Llangattock fel 'Gwraig Glyndwr'
  • Miss Peregrin fel 'Elizabeth, merch Owen Glyndwr'
  • Mr Isaac Vaughan Evans fel 'Llywelyn Olav'
  • Mr R. Lewis Junior Greenmeadow fel' 'Ivor Bach'
  • Mr Victor Witshire fel 'Henry V'
  • Lady St Davids fel 'The Lady of Dyved'
  • Lord Mostyn fel 'Richar ap Howel Mostyn'
  • Mr Luie fel 'Queen Gwenllian'
  • Mr a Mrs Godfrey Williams fel 'Owen Tudor' a 'Catherine.

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu

Western Mail Gorffennaf 27 1909: Pasiant Cenedlaethol Cymru