Owen Rhoscomyl
Awdur llyfrau plant a hanesydd poblogaidd o Gymru oedd Owen Rhoscomyl (enw bedydd: Robert Scourfield Mills) (6 Medi 1863 – 15 Hydref 1919). Mabwysiadodd yr enw Arthur Owen Vaughan yn ddiweddarach ond roedd yn adnabyddus yn bennaf wrth ei ffugenw llenyddol.
Owen Rhoscomyl | |
---|---|
Ganwyd | 6 Medi 1863 Southport |
Bu farw | 15 Hydref 1919 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Plant | Olwen Vaughan |
Llinach | teulu Vaughan |
Gwobr/au | OBE, Urdd Gwasanaeth Nodedig, Medal Ymddygiad Nodedig |
Bywyd
golyguGaned Rhoscomyl yn Southport, Glannau Merswy, ond cafodd ei fagu gan ei nain ym mhentref Tremeirchion, Sir y Fflint. Rhedodd i ffwrdd i grwydro'r byd pan yn llanc a threuliodd gyfnod yn Ne Affrica lle arweiniodd gatrawd o feirch yn Rhyfel y Boer.
Dychwelodd i Gymru ac ymroddodd i lenydda yn Saesneg. Ymddengys nad oedd yn medru llawer o Gymraeg oherwydd ei fagwraeth, ond ymfalchiai yn ei dras Gymreig a mabwysiadodd yr enw mwy Cymreig 'Arthur Owen Vaughan'. Mae'r cyfenw gwneud yn ei ffugenw, 'Owen Rhoscomyl', yn dod o lythrennau cyntaf ei enw bedydd.
Gwaith llenyddol
golyguCyhoeddodd sawl nofel antur Saesneg i fechgyn, yn cynnwys The White Rose of Arno (1896), a leolir yng ngwledydd Prydain yng nghyfnod y Jacobiniaid. Nofel arall, a leolir yng Nghymru, yw The Jewel of Ynys Galon (1895).
Ond ei waith mwyaf adnabyddus a dylanwadol yw Flame-Bearers of Welsh History, a gyhoeddwyd ym Merthyr Tudful yn 1905. Ei deitl llawn yw: Flame-bearers of Welsh history, being the outline of the story of The sons of Cunedda. Cyfrol i fechgyn ysgol oedd hon, ond roedd ei nod yn uchelgeisiol. Dymunai Rhoscomyn adfer ei le priodol i hanes Cymru yn ysgolion y wlad a dileu'r agweddau Seisnigaidd ar ei astudiaeth trwy ddod ac arwyr y gorffennol yn fyw o flaen llygaid ei ddarllenwyr. Ceir rhagymadrodd gan Syr John Rhŷs a Kuno Meyer, dau o ysgolheigion Celtaidd mwyaf y cyfnod. Gwnaeth y Flame-bearers lawer i ledaenu gwybodaeth am Owain Glyndŵr, er enghraifft. Fe'i disgrifir fel arwr a ymgeleddai'r werin bobl: yn ateb i'r cwestiwn "ble gladdwyd Glyndŵr?" ceir yr ateb ei fod yn gorffwys yng nghalon pob gwir Gymro lle bydd yn aros yn ysbrydoliaeth i'r genedl am byth.[1] Ond nid oedd y llyfr gwladgarol twymgalon hwn yn gymeradwy gan bawb a chafwyd ymateb adweithiol yn ei erbyn gan rai o "Sanhedrin" y system addysg yng Nghymru ac academyddion y Sefydliad. Gwerthodd nifer fawr o gopïau er hynny, ac mae lle i ddadlau ei fod yn un o'r cyfrolau hanes poblogaidd mwyaf dylanwadol erioed yng Nghymru, a gafodd ei ddarllen gan gynulleidfa ehangach o lawer na'r un yr anelwyd ati yn wreiddiol.
Llyfryddiaeth
golyguNofelau
golygu- The Jewel of Ynys Galon (1895)
- The White Rose of Arno (1896)
- Old Fireproof (1906)
- Vronina (1907)
- Love Tree Lode (1913)
Llyfrau hanes
golygu- Flame-Bearers of Welsh History (Merthyr Tudful, 1905)
- The Matter of Wales (1913)
Llyfryddiaeth
golygu- (Saesneg) Ellis, John S., Owen Rhoscomyl (Gwasg Prifysgol Cymru, 2016)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Elissa R. Henken, National Redeemer, tud. 174.
Dolenni allanol
golygu- Flame-bearers of Welsh history, ar gael fel testun neu ffeil PDF ar wefan Internet Archives.