Pastai Odl
llyfr gan Roald Dahl
Casgliad o gerddi gan yr awdur plant Roald Dahl (teitl gwreiddiol Saesneg: Rhyme Stew) wedi'u haddasu i'r Gymraeg gan Gwynne Williams yw Pastai Odl. Cyhoeddwyd y ffurf wreiddiol Saesneg yn 1989. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg gan Rily i ddathlu pen-blwydd Dahl yn 100 oed, yng Ngorffennaf 2016.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Roald Dahl |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1989 |
Pwnc | Chwedlau traddodiadol |
ISBN | 9781849673266 (1849673268) |
Darlunydd | Quentin Blake |
Genre | Barddoniaeth |
Dywed broliant y llyfr ar wefan Gwales (Cyngor Llyfrau Cymru): 'Penillion amharchus, haerllug a hynod o ddoniol yn rhoi sylw gwahanol iawn i gymeriadau straeon tylwyth teg, chwedlau a straeon traddodiadol megis, Hansel a Gretel, Y Crwban a'r Sgwarnog, Ali Baba, Aladin a llawer mwy. Casgliad dyfeisgar ac aeddfed sy'n addas ar gyfer plant hŷn ac oedolion.'[1]
Cefeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 11 Medi 2016.