Roald Dahl

nofelydd, awdur straeon byrion, bardd, peilot a sgriptiwr

Awdur o Sais[1][2][3] oedd yn ysgrifennu nofelau a storïau byrion, a llenor ar gyfer y sgrîn, oedd Roald Dahl (13 Medi 191623 Tachwedd 1990). Roedd yn enwog am ei lyfrau ar gyfer oedolion a phlant yn arbennig.

Roald Dahl
Ganwyd13 Medi 1916 Edit this on Wikidata
Llandaf Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd1 Rhagfyr 1916 Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1990 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethY Deyrnas Unedig
Alma mater
Galwedigaethsgriptiwr, nofelydd, hunangofiannydd, bardd, awdur storiau byrion, awdur plant, llenor, peilot awyren ymladd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCharlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Mr Cadno Campus, Matilda, Y Gwrachod, Y Twits, Yr CMM, The Gremlins, Moddion Rhyfeddol George, Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr, Esio Trot, Danny Pencampwr y Byd Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth arswyd, cyfriniaeth, ffantasi, llenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadCharles Dickens, C. S. Forester, Frederick Marryat, Jonas Lie, Rudyard Kipling, William Makepeace Thackeray Edit this on Wikidata
TadHarald Dahl Edit this on Wikidata
MamSofie Magdalene Hesselberg Edit this on Wikidata
PriodPatricia Neal, Felicity Dahl Edit this on Wikidata
PlantOlivia Dahl, Tessa Dahl, Ophelia Dahl, Theo Dahl, Lucy Dahl Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Edgar, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr World Fantasy am Gyflawniad Gydol Oes, Gwobr y Brwsh Paent Aur, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Rheithgor Plant Iseldiroedd, Gwobr Edgar, Children's Book Award, Q131308510, Q131308511, Q131308535, Q131308512 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.roalddahl.com Edit this on Wikidata

Ganwyd Dahl yng Nghaerdydd i rieni o Norwy. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd ar bwys y bae. Mynychodd Ysgol Repton yn Swydd Derby. Daeth i'r amlwg yn y 1940au gyda'i waith ar gyfer plant ac oedolion, gan ddod yn un o awduron mwyaf poblogaidd y byd. Datgelwyd yn y 1980au iddo weithio fel asiant ddirgel ar gyfer MI6, Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Dramor Prydain, gan wasanaethu yn yr Unol Daleithiau i hybu buddion Prydain ac i frwydro yn erbyn symudiad "America First", gan weithio ar y cyd gydag Ian Fleming a David Ogilvy.[4] Mae'r llyfr hanesyddol, "The Irregulars" gan Jennet Conant (2008, Simon and Schuster) yn disgrifio'r cyfnod hwn ym mywyd Dahl a'i gyfoeswyr.

Mae llyfrau mwyaf poblogaidd Dahl yn cynnwys Y Twits, Charlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Matilda, Y Gwrachod ac Yr CMM.

Pan oedd yn bedwar mis oed, cafodd Theo Dahl anafiadau drwg pan drawodd tacsi ei bram. Fe ddioddefodd o hydrocephalus, ac fel canlyniad, daeth Dahl i ymwneud gyda datblygiad y falf "Wade-Dahl-Till" (neu'r falf WDT), dyfais i leddfu'r cyflwr.[5][6]

Priododd Dahl yr actores Americanaidd, Patricia Neal, ar 2 Gorffennaf 1953 yn Eglwys y Drindod, Dinas Efrog Newydd. Parhaodd y briodas 30 mlynedd a chawsont bump o blant: Olivia (a fu farw o frech-wen encephalitis, yn saith oed), Tessa, Theo, Ophelia, a Lucy. Cysegrwyd y llyfr The BFG i Olivia.

Yn 1965, dioddefodd Neal dri ebychiad aneurysm ymenyddol tra'n feichiog gyda'u pumed plentyn, Lucy; fe gymerodd Dahl reolaeth o'i adferiad, ac fe ailddysgodd sut i gerdded a siarad yn y diwedd.[7] Ar ôl priodas gythryblus, cawsant ysgariad yn 1983, ac fe ail-briododd Dahl Felicity ("Liccy") d'Abreu Crosland (ganwyd 12 Rhagfyr 1938), a oedd 22 mlynedd yn iau nag ef.

Mae Ophelia Dahl yn gyfarwyddwr ac yn gyd-sefydlydd (gyda Paul Farmer) cymdeithas ddi-elw Partners in Health, sy'n darparu gofal iechyd i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae Lucy Dahl yn llenor ar gyfer y sgrin yn Los Angeles. Mae merch Tessa, Sophie Dahl (a ysbrydolodd Dahl i greu cymeriad Sophie, prif gymeriad Y CMM) yn fodel ac yn awdures, mae hi'n cofio Roald Dahl fel "dyn anodd iawn – cryf iawn, dominyddol ... ddim yn annhebyg i tad y chwiorydd Mitford yn rhuo o gwmpas y tŷ yn dweud ei farn yn swnllyd, gan wahardd rhai bechgyn rhag ymweld â'r tŷ."[8] Mae un o nifer o wyrion Dahl yn mynychu'r Royal Palm Academy.[9]

Diwrnod Roald Dahl

golygu

Yn ddiweddar, mae diwrnod pen-blwydd Dahl, 13 Medi, wedi cael ei ddathlu yn eang fel Diwrnod Roald Dahl.[10][11]

Ar benwythnos 17/18 Medi 2016 cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd i ddathlu canmlwyddiant geni Dahl. Daeth torf o filoedd i weld y digwyddiadau 'annisgwyl' oedd wedi eu seilio ar waith llenyddol yr awdur, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru. [12]

Llenyddiaeth plant

golygu

Roedd mam Dahl yn arfer adrodd straeon iddo ef a'i chwiorydd am greaduriaid mytholegol Norwyaidd, ac mae nifer o'i lyfrau'n cyfeirio at y rhain neu wedi cael eu hysbrydoli gan y straeon, megis y cewri yn The BFG. Darlunwyd nifer o'i lyfrau gan Quentin Blake.

Gweler hefyd

golygu

Rhestr Gweithiau

golygu

Gwaith ar gyfer Plant

golygu

Storïau Plant

golygu
 
Yr CMM
(1982)

Barddoniaeth Plant

golygu
 
Pastai Odl
(Rhyme Stew) (1989)

Ffuglen ar gyfer Oedolion

golygu

Nofelau

golygu

Casgliadau Storïau Byrion

golygu

Ffeithiol

golygu

Dramâu

golygu
  • The Honeys (1955) Cynhyrchwyd yn Theatr Longacre ar Broadway.

Sgriptiau Ffilm

golygu

Teledu

golygu
  • Way Out (1961) Cyfres Arswyd a gynhyrchwyd gan David Susskind
  • Alfred Hitchcock Presents ysgrifennwyd penodau gan Roald Dahl:
    • Alfred Hitchcock Presents: "Lamb to the Slaughter" (1958)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Dip in the Pool" (1958)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Poison" (1958)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Man from the South" (1960)
    • Alfred Hitchcock Presents: "Mrs. Bixby and the Colonel's Coat" (1960)
    • Alfred Hitchcock Presents: "The Landlady" (1961)
  • Tales of the Unexpected (1979-88), ysgrifennwyd a chyflwynwyd penodau gan Roald Dahl

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dahl, Roald (2013). Going solo. Internet Archive. London : Puffin. tt. 23, 55. ISBN 978-0-14-134987-9. Page 23: "Only three young Englishmen men ran the Shell company in the whole of that vast territory and I was the youngest and the junior." Page 55: "There were not a lot of young Englishmen in Dar, perhaps 15 or 20 at the most and all of us..."
  2. "Roald Dahl and Norway". web.archive.org. 2015-07-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-04. Cyrchwyd 2023-10-21. very English indeedCS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. Dennison, Matthew (2023-01-03). Roald Dahl: Teller of the Unexpected: A Biography (yn Saesneg). Simon and Schuster. ISBN 978-1-63936-333-9. 'very English, you know, born and bred, in spite of my name', 'an Englishman who lives in England'
  4. "The Irregulars", Jennet Conant, Simon and Schuster 2008
  5.  Water on the Brain. MedGadget: Internet Journal of Emerging Medical Technologies (15 Gorffennaf 2005).
  6.  Dr Andrew Larner. Tales of the Unexpected: Roald Dahl’s Neurological Contributions. Advances in Clinical Neuroscience and Rehabilitation.
  7. Barry Farrell (1969). Pat and Roald. Kingsport Press
  8. "a very difficult man – very strong, very dominant ... not unlike the father of the Mitford sisters sort of roaring round the house with these very loud opinions, banning certain types – foppish boys, you know – from coming round."
  9. "royalpalmacademy.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-23. Cyrchwyd 2008-11-12.
  10. Roald Dahl Day celebrations Archifwyd 2009-09-08 yn y Peiriant Wayback, Roald Dahl Museum and Story Centre
  11. Roald Dahl's 90th Birthday! Archifwyd 2008-12-05 yn y Peiriant Wayback, Random House UK
  12. Troi Caerdydd yn lle hud a lledrith ar gyfer dathliadau Dahl , BBC Cymru Fyw, 17 Medi 2016. Cyrchwyd ar 19 Medi 2016.
  13. Ffynhonnell: ysgrifennwyd ar gyfer taflen a gyhoeddwyd yn 1986 gan y 'Sandwell Health Authority' (Sandwell and West Birmingham Hospitals NHS Trust erbyn heddiw). Ailgynhyrchwyd http://www.blacktriangle.org/blog/?p=715 yma Archifwyd 2006-10-12 yn y Peiriant Wayback