Awdur ffuglen wyddonol Americanaidd yw Pat Cadigan (ganwyd 10 Medi 1953). Cysylltir ei gwaith yn aml gyda'r mudiad Agerstalwm (cyberpunk), sy'n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng yr ymennydd dynol a thechnoleg.[1][2][3][4]

Pat Cadigan
Ganwyd10 Medi 1953 Edit this on Wikidata
Schenectady Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Massachusetts Amherst
  • Prifysgol Kansas Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, llenor, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Arddullgwyddonias Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Arbennig World Fantasy i Amaturiaid, Gwobr Locus am y Stori Fer Orau, Gwobr Arthur C. Clarke, Gwobr Arthur C. Clarke, Gwobr Hugo am y Nofelig Orau, Gwobr Locus am y Nofelig Orau Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://patcadigan.wordpress.com/ Edit this on Wikidata

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Massachusetts Amherst a Phrifysgol Kansas.

Magwraeth a phriodi

golygu

Ganwyd Cadigan yn Schenectady, Efrog Newydd, ac fe'i magwyd yn Fitchburg, Massachusetts. Cafodd ei haddysgu ym Mhrifysgol Massachusetts Amherst lle canolbwyntiodd ar y theatr ac yna mynychodd Brifysgol Kansas (KU), lle bu'n astudio ysgrifennu ffuglen wyddonol o dan yr awdur a'r golygydd yr Athro James Gunn. [5][6]

 
Pat Cadigan yn Finncon 2010, Jyväskylä.

Cyfarfu Cadigan â'i gŵr cyntaf, Rufus Cadigan, yn y coleg ond ysgarodd y ddau yn fuan ar ôl iddi raddio o KU yn 1975. Yr un flwyddyn ymunodd Cadigan â phwyllgor confensiwn MidAmeriCon, 34ain Confensiwn Ffuglen Wyddoniaeth y Byd a gynhaliwyd yn Kansas City, Missouri. Y flwyddyn wedyn disgynnodd mewn cariad â Tom Reamy, perchennog cwmni graffeg y bu'n gweithio iddo ond bu farw yn 1977 ac aeth i weithio i gwmni Hallmark Cards.

Ar ddiwedd y 1970au a dechrau'r 1980au, golygodd hefyd y cylchgronau ffantasi a ffuglen wyddonol Chacal a Shayol gyda'i hail ŵr, Arnie Fenner.

Gwerthodd Cadigan ei stori ffuglen wyddonol broffesiynol gyntaf yn 1980; ysbrydolwyd hi gan lwyddiant y nofel i ddod yn awdur llawn-amser yn 1987. Ymfudodd i Lundain gyda'i mab Rob Fenner yn 1996, lle mae'n briod â'i thrydydd gŵr, Christopher Fowler. Daeth yn ddinesydd y DU ddiwedd 2014.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Arbennig World Fantasy i Amaturiaid (1981), Gwobr Locus am y Stori Fer Orau (1988), Gwobr Arthur C. Clarke (1992), Gwobr Arthur C. Clarke (1995), Gwobr Hugo am y Nofelig Orau (2013), Gwobr Locus am y Nofelig Orau (2013)[7][8][9] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://www.npr.org/templates/story/story.php?storyId=127369578.
  3. Dyddiad geni: "Pat Cadigan". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Pat Cadigan". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Pat CADIGAN". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: http://books.google.com/books/about/Mindplayers.html?id=lmRH7uWlM9sC. Google Books. dynodwr Google Books: lmRH7uWlM9sC.
  5. Galwedigaeth: http://www.wired.com/wired/archive/9.06/mustread_pr.html. http://books.google.com/books/about/Mammoth_Books_presents_Death_in_the_Prom.html?id=w4S0jZ61JD0C. Google Books. dynodwr Google Books: w4S0jZ61JD0C.
  6. Anrhydeddau: https://www.sfadb.com/Locus_Awards_1988. https://www.thehugoawards.org/hugo-history/2013-hugo-awards/. https://www.sfadb.com/Locus_Awards_2013.
  7. https://www.sfadb.com/Locus_Awards_1988.
  8. https://www.thehugoawards.org/hugo-history/2013-hugo-awards/.
  9. https://www.sfadb.com/Locus_Awards_2013.