Math o ffuglen ddamcaniaethol yw gwyddonias[1] neu ffuglen wyddonol sy'n damcanu am effeithiau gwyddoniaeth a thechnoleg ar unigolion a chymdeithas. Mae'r straeon yn aml yn ymwneud â'r dyfodol neu'r gofod neu effaith datblygiad newydd technolegol ar fyd heddiw. Er gall ymddangos yn unrhyw gyfrwng mae'n fwyaf amlwg ym mydoedd ffilm, nofelau a gemau cyfrifiadurol.

Llyfrau ffug-wyddonol Pwyleg

Categoreiddio gwyddonias golygu

Yn fras, mae modd categoreiddio straeon gwyddonias ar hyd ystod rhwng gwyddonias caled a meddal. Mae'r termau cyffredinol hyn yn disgrifio'r graddau y mae'r dechnoleg dychmygol sy'n ymddangos yn wyddonol, yn gredadwy ac/neu yn cael ei drin yn gyson o fewn y stori.

Yn gyffredinol, mae gwyddonias ar pen 'galed' y sbectrwm wedi'i wreiddio mewn gwyddoniaeth cyfredol y byd go iawn. Ni fydd y dechnoleg yn caniatáu pethau sy'n mynd yn groes i ddealltwriaeth gwyddonol (er enghraifft teithio'n gyflymach na golau neu drwy amser), neu os yw'r dechnoleg yn caniatáu unrhywbeth o'r fath bydd ymdrech i esbonio sut mae'n gweithio o fewn gwyddoniaeth, hyn yn oed os yw'n ddamcaniaethol yn unig. Ar y lleiaf bydd unrhyw dechnoleg ddamcaniaethol yn cael ei esbonio mewn ffordd sy'n gyson o fewn bydysawd dychmygol y gwaith. Mewn gwyddonias caled, yn aml bydd y dechnoleg ei hunan yn elfen ganolog o'r plot, gyda'r stori'n archwilio effeithiau posib y dechnoleg ar y ddynoliaeth neu gymdeithas. Mae enghreifftiau o gwyddonias caled yn cynnwys y drioleg Mars gan Kim Stanley Robinson, a'r ffilm Gattacca.

Ar ben arall y sbectrwm, bydd y dechnoleg mewn gwyddonias meddal yn fwy ffantasïol. Os geir esboniad o gwbl o sut mae'r dechnoleg yn gweithio, bydd yn tueddu fod yn niwlog ac amwys a/neu'n dibynnu ar elfennau hollol dychmygol nad ydynt yn bodoli'r tu allan i fydysawd y gwaith ffuglennol ei hunan. Enghreifftiau adnabyddus o gwyddonias meddal yw'r gyfres deledu Doctor Who, ffilmiau Star Wars a bydysawd Marvel.

Pegynau eithafol yw'r categorïau uchod a mae'r mwyafrif o enghreifftiau o gwyddonias yn cwympo rhywle rhwng y ddau begwn. Er enghraifft, gellid dweud bod y gyfres Star Trek yn fwy 'caled' na Star Wars ond yn fwy meddal na Firefly.

O fewn y genre cyffredinol, mae nifer draddodiadau gwahanol o ran cyd-destunau storïol. Defnyddir y term Opera Ofod (a ddaw o'r cysyniad o Opera Sebon) i ddisgrifio straeon fel Star Trek, Star Wars a nofelau The Culture gan Iain M. Banks. Fel mae'r enw'n awgrymu, mae'r straeon epig hyn wedi'u gosod ar longau ofod, neu'n cynnwys teithio rhwng planedau, ac fel arfer yn cynnwys nifer fawr o gymeriadau. Mae creuaduriaid estron o blanedau eraill yn gyffredin mewn Opera Ofod, ond ceir digon o enghreifftiau hebddynt, fel Firefly neu Battlestar Galactica.

Math arall o wyddonias yw ffuglen ddystopaidd. Mae straeon dystopaidd yn dychmygu dyfodol dywyll i'r ddynoliaeth (neu ran ohoni), yn aml oherwydd llywodraeth totalitaraidd neu effeithiau negyddol technoleg ar gymdeithas neu'r amgylchedd. Mae enghreifftiau o'r math yma o wyddonias yn cynnwys y ffilm Blade Runner a'r nofel Nineteen Eighty-Four gan George Orwell. Yn gorgyffwrdd â ffuglen ddystopaidd mae ffuglen ôl-apocalyptaidd, sef ffuglen sy'n dychmygu dyfodol yn dilyn trychineb neu ddigwyddiad a newidiodd y byd yn sylweddol er gwaeth, megis trychineb amgylcheddol neu ryfel catastroffig. Mae enghreifftiau'n cynnwys y ffilmiau Mad Max neu'r gyfres gemau cyfrifiadur Fallout. Gall y gymdeithas sy'n goroesi trychineb o'r fath - os yw'n goroesi o gwbl - feddu ar nodweddion dystopaidd.

Hanes golygu

Er bod gan wyddonias ei gwreiddiau mewn llenyddiaeth llawer hŷn, y gweithiau hynaf y mae'r term yn cael ei ddefnyddio i'w disgrifio ydy gwaith Mary Shelley, yn enwedig Frankenstein (1818) ac The Last Man (1826) [2]. Fodd bynnag, mae'r genre modern yn dechrau o ddifrif gyda dau awdur o ail hanner y 19g, sef y Sais H. G. Wells a'r Ffrancwr Jules Verne[3].

Gwyddonias yn y Gymraeg golygu

Mae'r mwyafrif o wyddonias gwreiddiol yn y Gymraeg wedi bod ar ffurf llenyddiaeth yn hytrach na ffuglen weledol. Enghraifft gynnar o lyfr Cymraeg gwyddonias yw'r nofel Wythnos Yng Nghymru Fydd (1957) gan Islwyn Ffowc Elis, sy'n cynnig dwy weledigaeth dra gwahanol o Gymru'r dyfodol yn y flwyddyn 2033. Aeth Elis ymlaen i ysgrifennu ail nofel wyddonias yn 1968, Y Blaned Dirion, am daith ar long ofod i blaned pell. Yn 1976 cyhoeddwyd y nofel Y Dydd Olaf gan Owain Owain, enghraifft o ffuglen ddystopaidd; enghraifft arall mwy diweddar yw Annwyl Smotyn Bach gan Lleucu Roberts.

Dyma restr anghyflawn o weithiau Cymraeg gwreiddiol sy'n perthyn i'r genre:

Nofelau
Cyfrolau Straeon Byrion
Ffilmiau
Cerddoriaeth

Cyfeiriadau golygu

  1. Miriam Elin Jones, "Gwyddonias" yn yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 15 Tachwedd 2023.
  2. John Clute and Peter Nicholls (1993). "Mary W. Shelley". Encyclopedia of Science Fiction. Orbit/Time Warner Book Group UK. Cyrchwyd 2007-01-17.
  3. "Science Fiction". Encarta Online Encyclopedia. Microsoft. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 17 Ionawr 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.