Pathfinder
Llyfr misol yw Pathfinder, a gyhoeddir gan Paizo Publishing ers Awst 2007.[1] Mae'n barhad o syniad Adventure Path o gylchgrawn Dungeon, a ddaeth i ben ym mis Medi 2007, bydd gwerth pob blwyddyn o Pathfinder yn cyhoeddi dau gyfres Adventure Paths cyfan mewn arch o chwe cyfrol,[1][2] gyda erthyglau ategol i lenwi pob cyfrol 96 tudalen. Mae'n cael ei olygu dan oruchwyliaeth James Jacobs, cyn bennaeth golygu Dungeon.[3]
Enghraifft o'r canlynol | tabletop role-playing game periodical, cyfres o lyfrau |
---|---|
Cyhoeddwr | Paizo Publishing |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 2007 |
Genre | tabletop role-playing game |
Olynwyd gan | Pathfinder Roleplaying Game (1st edition) |
Cyhoeddir Pathfinder o dan amodau'r Open Gaming License (OGL).[1][4] Tra cyhoeddwyd Dragon a Dungeon o dan drwydded er mwyn gwneud defnydd o rhai elfennau eiconig o eiddo deallusol Dungeons & Dragons, gan gynnwys deunydd a dynnwyd o'r gosodiadau swyddogol a gyhoeddwyd gan Wizards of the Coast a bwystfilod unigryw megis illithid, gan fod termau OGL yn gwahardd defnydd o elfennau IP "caëdig" fel hynny. I'r gwrthwyneb, gall defnyddio deunydd OGL o gêmau chwarae rôl cyhoeddwyr eraill (megis Necromancer Games neu Green Ronin Publishing) yn Pathfinder, ond mae termau trwydded Paizo gyda Wizards of the Coast wedi eu atal rhag defnyddio deunydd OGL trydydd person yn Dragon neu Dungeon.
Cyhoeddir pob cyfrol o Pathfinder wedi ei argraffu ac ar ffurf PDF, ac mae tanysgrifwyr i'r fersiwn sydd wedi ei argraffu yn derbyn copi PDF o pob rhifyn yn rhad ac am ddim.
Mae'r Adventure Paths a gyhoeddir yng nghyfres Pathfinder wedi eu gosod ym myd Golarion,[4] sef byd y lleoliad ymgyrch newydd Pathfinder Chronicles a ddatblygwyd gan staff Paizo, yn hytrach nag yn lleoliad Dungeons & Dragons arferol sy'n eiddo i Wizards of the Coast, fel yr oedd nifer yn Dungeon. Mae cynnyrch arall Paizo, yn cynnwys cyfres GameMastery o antur ac ategolion, hefyd ynghlwm a'r lleoliad hwn.
Gwelir yr erthyglau : Pathfinder RPG - Gêm Chwarae Rôl, Termau Pathfinder RPG
Ffynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Ian Randal Strock (2007-04-20). Paizo's Pathfinder to debut in August. SFScope.
- ↑ Steven Marsh (2007-09-28). Pyramid Review: Pathfinder #1: Rise of the Runelords Chapter 1: Burnt Offerings (for d20 System) and Pathfinder: Rise of the Runelords Player's Guide. Steve Jackson Games. URL
- ↑ Scott Hall (2007-10-12). Review of Pathfinder #1-Rise of the Runelords Chapter 1: "Burnt Offerings". RPGnet.
- ↑ 4.0 4.1 Varianor Abroad. Review of Pathfinder #1 - "Burnt Offerings". ENWorld.
Dolenni Allanol
golygu- Gwefan swyddogoll Pathfinder
- Wici Pathfinder Archifwyd 2008-06-06 yn y Peiriant Wayback