Patricia Williams

llenor

Darlithydd, hanesydd ac awdur o Wrecsam yw Patricia Williams.[1]

Patricia Williams
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, athro ysgol uwchradd Edit this on Wikidata

Cafodd ei magu ar aelwyd Saesneg ond cafodd y fraint o fynd i Ysgol Gynradd Gwynfryn lle roedd y prifatho dawnus E. D. Parry yn dysgu Cymraeg fel ail iaith, pan nad oedd hi'n orfodol nac yn ffasiynol i wneud hynny. Bu'n ffodus i gael hyfforddiant pellach yn y Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched Grove Park Wrecsam gan yr athrawes ysbrydoledig, Miss Menai Williams, a gododd awydd ynddi i barhua gydag Astudiaethau Cymraeg a Chelteg.

Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hoes yn Lerpwl, gan ddysgu Lladin yn Ysgol Merched Merchant Taylors yn ei dyddiau cynnar yn y ddinas, cyn ei phenodi'n ddarlithydd yn Adran Geltaidd Prifysgol Lerpwl ac wedyn Prifysgol Manceinion. Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yw ei phrif ddiddordeb ymchwil, yn enwedig cyfieithiadau o'r Lladin. Mae wedi cyhoedd nifer o cyfrolau gan cynnwys Historical Texts from Medieval Wales yn 2012 ac A oes Heddwch yn 2019.

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 1999689801". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Patricia Williams ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.