Prifysgol yn Lerpwl, Gogledd-orllewin Lloegr, sy'n aelod o'r Grŵp Russell a'r Grwp N8 (ymchwil) yw Prifysgol Lerpwl (Saesneg: University of Liverpool). Fe'i ffurfiwyd yn wreiddiol ym 1882 fel Coleg Prifysgol Lerpwl.

Prifysgol Lerpwl
Mathprifysgol gyhoeddus, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1903 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolELIXIR UK Edit this on Wikidata
LleoliadAbercromby Square Edit this on Wikidata
SirLerpwl, Dinas Lerpwl Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.406°N 2.967°W Edit this on Wikidata
Cod postL69 7ZX Edit this on Wikidata
Map
Prifysgol Lerpwl
The University of Liverpool
Arwyddair Lladin: Haec otia studia fovent
Arwyddair yn Gymraeg Meithrin dysg yw hamdden
Sefydlwyd 1882 - fel Coleg Prifysgol Lerpwl
1884 - fel rhan o Brifysgol Victoria
1903 - siarter frenhinol
Math Cyhoeddus
Myfyrwyr 27,070 (2016/17)
Israddedigion 20,940
Ôlraddedigion 6,135
Lleoliad Lerpwl, Lloegr
Tadogaethau AACSB, CDIO, EUA, N8, NWUA, The Russell Group
Gwefan http://www.liverpool.ac.uk

Yn 1884 daeth y coleg yn aelod o "Brifysgol Victoria", sefydliad ffederal yng Ngogledd Lloegr a oedd hefyd yn cynnwys Owens College (sef Prifysgol Manceinion heddiw) a Choleg Swydd Efrog (sef Prifysgol Leeds heddiw). Ym 1903 derbyniodd y brifysgol ei siarter frenhinol, gan ddod yn sefydliad annibynnol â phwerau dyfarnu graddau.[1]

Cyfeiriadau golygu