Gwraig fusnes o Loegr ac offeiriad Anglicanaidd yw Paula Anne Vennells (ganwyd 21 Chwefror 1959). Roedd hi'n Brif Swyddog Gweithredol Swyddfa'r Post Cyfyngedig rhwng 2012 a 2019, yn anterth sgandal Swyddfa'r Post lle collodd cannoedd o is-bostfeistri eu bywoliaeth oherwydd gwallau'r cwmni. O dan ei arweiniad ef, erlynodd y Swyddfa'r Post llawer o bobl o is-byst am dwyll, er ei fod yn gwybod bod yr anghysondebau ariannol wedi deillio mewn gwirionedd o gamgymeriadau cyfrifiadurol yr oedd ei gwmni ei hun yn gyfrifol amdanynt.

Paula Vennells
Ganwyd21 Chwefror 1959 Edit this on Wikidata
Man preswylDenton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Prifysgol Bradford
  • Ysgol Uwchradd Manceinion i Ferched
  • Cwrs Gweinidogaeth Rhanbarth y Dwyrain Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, person busnes, gweithredwr mewn busnes Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Argos
  • Dixons Retail
  • Dunelm Group
  • Eglwys Sant Owen
  • Imperial College Healthcare NHS Trust
  • L'Oréal
  • Morrisons
  • Pizza Hut UK
  • Unilever
  • Whitbread
  • Swyddfa'r Post Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bu Alan Bates yn gweithio mewn swyddfa bost yn Llandudno a chaiff ei bortreadu gan Toby Jones yn y ddrama Mr Bates vs The Post Office; daeth yn arweinydd yr is-bostfeistri a ddatgelodd y sgandal.[1] Ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt roedd Noel Thomas o Ynys Môn, a gafwyd yn euog yn annheg a’i anfon i garchar yn 2006

Cafodd Vennells yn Denton, Swydd Gaerhirfryn. Cafodd ei haddysg yn yr Ysgol Uwchradd i Ferched Manceinion. Astudiodd Rwsieg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Bradford, gan raddio yn 1981 gyda BA.

Dechreuodd ei gyrfa fel hyfforddai graddedig yn Unilever ym 1981. Yn ddiweddarach bu'n gweithio i L'Oréal, Dixons Retail, Argos a Whitbread.

Yn 2019 daeth yn gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd y Coleg Imperial yn Llundain. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y byddai’n gadael y rôl yn gynnar, am resymau personol,[2] Ym mis Ebrill 2021, yn ddilyn dileu 39 collfarn o ddirprwy is-bostfeistri, tynnodd hi yn ôl o'i rôl fel gweinidog.

Chwaraeodd yr actores Lia Williams ran Vennells yng nghyfres deledu 2024, Mr Bates vs The Post Office.[3] Ar 8 Ionawr 2024,dywedwyd bod dros filiwn o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar PV i golli ei CBE.[4] Ar 9 Ionawr cytunodd i roi ei CBE yn ôl.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ian Lang (4 Ionawr 2024). "The true story of the Welsh sub-postmaster behind new ITV Drama Mr Bates vs the Post Office". ITV Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Ionawr 2024.
  2. "Trust chair to step down next April". www.imperial.nhs.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2020.
  3. "Mr Bates vs The Post Office star on how legal risks impacted script". Radio Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Ionawr 2024.
  4. "Sgandal Swyddfa'r Post: Miliwn o bobol am i CBE Paula Vennells gael ei dynnu oddi wrthi". Golwg 360. 8 Ionawr 2024. Cyrchwyd 8 Ionawr 2024.
  5. Rowena Mason (9 Ionawr 2024). "Former Post Office boss Paula Vennells to return CBE amid Horizon scandal". The Guardian. Cyrchwyd 9 Ionawr 2024.