Pedwarawd llinynnol

Ensemble cerddorol sy'n cynnwys pedwar chwaraewr llinynnol – dau chwaraewr ffidil, chwaraewr fiola a sielydd – yw pedwarawd llinynnol. Defnyddir yr enw hefyd i gyfeirio at gyfansoddiad a ysgrifennwyd i'w berfformio gan grŵp o'r fath; mae cyfansoddwyr pwysicaf cerddoriaeth glasurol, o ganol y 18g ymlaen, wedi ysgrifennu pedwarawdau llinynnol.

Pedwarawdd Allegra yn perfformio (2007)