Offeryn cerdd gyda phedwar tant ydy’r fiola, sy'n cael ei chanu (fel arfer) gyda bwa. Hwn yw ail lais yn nheulu'r feiolin o offerynnau, sydd rhwng sain ffidil a sielo. Mae tannau'r fiola yn cael eu tiwnio i C, G, D, A (o'r gwaelod), yn dechrau ar y C wythfed o dan C ganol. Gall rhai sy'n anghyfarwydd â'r offerynnau gymysgu rhwng ffidil a fiola oherwydd maint a chywair tebyg yr offerynnau, ond mae tannau fiola wedi eu tiwnio pumed perffaith yn is ac felly mae ganddi sain fwy llawn ac aeddfed. Defnyddir y fiola’n aml ar gyfer yr harmonïau yng ngherddoriaeth yn hytrach na'r brif alaw oherwydd yr elfennau yma o'i llais.

Fiola
Amrediad y Fiola

Ffurf y Fiola

golygu

Mae gwneuthuriad y fiola'n debyg iawn i'r ffidil, ond mae'n fwy ac yn amrywio mwy yn ei chyfranedd. Mae corff fiola "maint llawn" fel arfer rhwng un a phedwar modfedd yn hirach na ffidil. Caiff meintiau fiola eu mesur mewn modfeddi neu centimedrau, 16 modfedd (41 cm) ar gyfartaledd. Caiff fiolau bychain eu hadeiladu ar gyfer plant sy'n dysgu chwarae. Maen nhw cyn lleied â 12 modfedd (30 cm), sy'n cyfateb i ffidil hanner maint. Yn aml, caiff ffidil fechan ei thantio gyda thannau fiola ar gyfer plant sydd angen meintiau llai fyth. Yn wahanol i'r ffidil, nid oes maint safonol ar gyfer fiola.

Canu'r Fiola

golygu
 
Chwarae fiola 17" yn y 3ydd safle.

Tra bod fiola'n debyg i ffidil, mae rhai gwahaniaethau yn y dechneg sydd ei angen ar gyfer canu neu chwarae'r fiola. Daw'r gwahaniaeth mwyaf nodweddiadol ym maint yr offeryn, gan alw am fwy o gryfder corfforol i'w chwarae na'r ffidil sy'n llai ac yn ysgafnach.

  • I gymharu â ffidil, mae gan fiola fel arfer, gorff mwy a thannau hirach. Mae lleoliadau'r bysedd yn bellach ar wahân. Mae'n gyffredin i chwaraewyr ddefnyddio vibrato mwy dwys gyda'r llaw chwith ac i ddal y bwa a'r fraich dde yn bellach i ffwrdd oddi wrth y corff. Mae'n rhaid i'r chwaraewyr hefyd allu ymestyn osgo’r fraich i allu chwarae'r tant isaf. Mae hyn yn galluogi i'r bysedd fod yn fwy cadarn a chreu tôn cliriach. Os nad oes gan y chwaraewr ddwylo anarferol o fawr, defnyddir byseddu gwahanol, gan gynnwys defnydd aml o'r hanner safle a newid safle'n aml pan fuasai aros mewn un safle'n ddigonol ar ffidil.
  • Mae tannau fiola'n fwy trwchus na rhai ffidil fel rheol. Mae hyn, wedi ei gyfuno gyda mwy o faint ac amrediad cywair is, yn creu tôn dyfnach a mwy aeddfed. Ond, mae'r tannau trwchus hefyd yn golygu bod y fiola'n 'siarad' yn arafach na'i chefnder soprano. Yn ymarferol, os yw ffidlwr a fiolydd yn chwarae gyda'i gilydd, mae'n rhaid i'r fiolydd ddechrau symud y bwa ffracsiwn o eiliad cyn y ffidlwr er mwyn creu sain sy'n dechrau ar yr un amser. Mae tannau trwchus hefyd yn golygu bod angen mwy o bwysau ar y tannau er mwyn chwarae.
  • Mae tannau trwchus a hirach yn achosi i'r chwaraewyr ddefnyddio padiau eu bysedd yn hytrach na'r blaen, gan greu techneg debycach i un sielo.
  • Bwa fiola yw'r hiraf mewn cerddorfa, gyda band lletach o wallt ceffyl, sy'n fwyaf amlwg ger sawdl y bwa. Mae bwa fiola yn pwyso rhwng 70 a 74 g - mae hyn yn drymach na rhai ffidil sydd yn pwyso rhwng 58 a 61 g. Mae'r dechneg o ddefnyddio'r bwa'n wahanol hefyd gan fod angen rhoi mwy o bwysedd ar y bwa i allu tynnu'r sain o'r tannau.
 
Sawdl bwa, top i'r gwaelod: ffidil, fiola, sielo
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolenni allanol

golygu