Pegi Talfryn

Awdur a thiwtor o Gymraes

Awdur a tiwtor Cymraeg yw Pegi Talfryn (ganwyd 1956/1957).

Pegi Talfryn
GanwydSeattle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, tiwtor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Fe'i ganwyd yn Seattle, Talaith Washington. Er nid oedd ganddi unrhyw gefndir Cymreig roedd eisiau dod i Gymru ers yn ifanc a phenderfynodd ddod draw i astudio Cymraeg ym Mhrifysgl Llanbedr Pont Steffan a graddiodd yn 1979. Aeth ymlaen i wneud cwrs ysgrifenyddol dwyieithog yng Ngholeg Technegol Gwynedd, Bangor a chwrs ymarfer dysgu yn y Brifysgol ym Mangor.[1]

Arhosodd yng Nghymru wedi cyfarfod ei gŵr, Ioan Talfryn.[2]

Gwnaeth amrywiaeth o swyddi: dysgu prosesu geiriau Cymraeg a Gofal Plant yng Ngholeg Y Rhyl, Llandrillo; hyfforddi cynorthwywyr dosbarth yn y gymuned; ysgrifennu cyrsiau Cymraeg; athrawes gynradd; Swyddog y Dysgwyr gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.[2] Rhwng Jan 2010 – Oct 2015 roedd yn Reolwr Addysg yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn.

Hi yw awdur Gangsters yn y Glaw (2018) Gwasg Gomer - rhan o gyfres Amdani ar gyfer dysgwyr.[3]

Bywyd personol

golygu

Mae hi’n mwynhau ysgrifennu storïau i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi’n byw yn Waunfawr efo’i gŵr, Ioan ac mae ganddynt tri o blant.

Mae hi’n hoffi darllen llyfrau ditectif, cerdded, dysgu ieithoedd a chanu.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  LinkedIn Pegi Talfryn. Pegi Talfryn.
  2. 2.0 2.1  Pegi Talfryn a'r Nant. Y Tiwtor.
  3. "Pegi Talfryn - Authors". www.gomer.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-11. Cyrchwyd 2020-01-10.