Ysgogydd Nerfol Trydanol Trawsgroenol yw peiriant TENS (Saesneg:Transcutaneous electrical nerve stimulation). Mae trawsgroenol yn golygu 'drwy'r croen'. Mae peiriannau TENS yn cyflenwi pylsiau bach trydanol i'r corff drwy electrodau a osodir ar y croen. Credir bod peiriannau TENS yn effeithio ar y ffordd mae signalau poen yn cael eu hanfon i'r ymennydd. Mae signalau poen yn cyrraedd yr ymennydd drwy'r nerfau a madruddyn y cefn. Os gellir blocio signalau poen yna bydd yr ymennydd yn derbyn llai o signalau o ffynhonnell y boen. Yna gall unigolion deimlo llai o boen.[1]

Peiriant Tens

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)