Nerf
Bwndel o acsonau, sef ffibrau hirion, meinion sy'n cysylltu â niwronau, yw nerf neu weithiau gieuyn neu giewyn (ffurf luosog: gïau). Pwrpas y nerf yw i drosglwyddo ysgogiadau nerfol electrocemegol ar hyd yr acsonau i organau amgantol.
Mae nerfau'r corff yn ffurfio'r system nerfol amgantol, sy'n cysylltu â'r system nerfol ganolog, sef yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn, gan ffurfio'r holl system nerfol. Yn y system nerfol ganolog, llwybrau nerfol yw'r strwythurau sy'n cyfateb i nerfau.[1][2]
Mae gan bob nerf strwythur gordaidd sy'n cynnwys nifer o acsonau, neu ffibrau nerfol. Amgeir pob acson gan haen o feinwe gyswllt o'r enw'r endonewriwm. Clymir yr acsonau'n sypynnau o'r enw ffasgellau nerfol, ac amlapir pob ffasgell mewn haen o feinwe gyswllt o'r enw'r perinewriwm. Amgeir yr holl nerf gan haen o feinwe gyswllt o'r enw'r epinewriwm.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Purves D, Augustine GJ, Fitzppatrick D (2008). Neuroscience (arg. 4th). Sinauer Associates. tt. 11–20. ISBN 978-0-87893-697-7.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Marieb EN, Hoehn K (2007). Human Anatomy & Physiology (arg. 7th). Pearson. tt. 388–602. ISBN 0-8053-5909-5.