Peiriant tanio mewnol
Injan neu peiriant sy'n llosgi tanwydd oddi fewn iddo ydy peiriant tanio mewnol (Saesneg: internal combustion engine). Tanwydd ffosil a ddefnyddir fel arfer a hwnnw'n llosgi mewn aer oddi fewn i siambr losgi. Mae'r nwyon dan wasgedd a thymheredd uchel yn chwyddo a thrwy hynny yn gwthio ar ran arbennig o'r peiriant e.e. y pistonnau neu lafnau twrbein. Mae'r grym hwn yn symud y darn ac felly'n creu egni mecanyddol defnyddiol dros ben.[1]
Erbyn heddiw, mae'r term peiriant tanio mewnol yn cael ei ddefnyddio am y peiriannau 2-stroc a 4-stroc, ac ambell amrywiad tebyg i beiriant Wankel, yn unig. Maent yn gwbwl wahanol i'r peiriannau tanio allanol e.e. peiriannau stêm ayb.
Ceir peiriannau tanio mewnol mewn ceir, peiriannau torri gwair, cychod ac awyrenau.