Car
Cerbyd ar olwynion yw car neu gar modur, a ddefnyddir er mwyn cludo teithwyr neu nwyddau, ac sy'n cludo ei fodur ei hun, i'w yrru. Mae'r rhan fwyaf o ddiffiniadau yn nodi fod ceir wedi eu cynllunio i redeg ar ffyrdd yn bennaf, a bod ganddynt hyd at wyth sedd, pedair olwyn fel rheol, a'u bod wedi'u cynhyrchu er mwyn cludo pobl yn bennaf yn hytrach na nwyddau.[1] Ond, nid yw hwn yn fanwl gywir, gan fod mathau eraill o gerbyd hefyd yn cyflawni tasgau tebyg.
Ystyrir y flwyddyn 1886 fel blwyddyn geni'r car modern, pan rhoddodd Karl Benz batent ar ei Benz Patent-Motorwagen yn yr Almaen. Yn nechrau'r 20c fodd bynnag y gwelwyd cynnydd aruthrol yn y nifer o geir a gynhyrchwyd. Un o'r rhai cyntaf i fod yn fforddiadwy ac yn boblogaidd oedd y "Model T", yn 1908, car Americanaidd a gynhyrchwyd gan y Ford Motor Company. Ac yno, yn Unol Daleithiau America y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y ceir, gan ddisodli anifeiliaid fel dull o dynnu troliau a chertiau.
Daw'r gair "car" o'r hen air Brythoneg "Karr" a olygai "cerbyd" fel yn y gair 'cer-byd' ei hun a'r termau 'Car llusg' a 'char rhyfel' sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.[2]
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (1976) Pocket Oxford Dictionary. Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0198611137
- ↑ "Car". (etymology). Online Etymology Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-06. Cyrchwyd 2008-06-02. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)