Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau (tenis)
Cystadleuaeth tenis flynyddol yw Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau. Cynhelir am byfethnos yn dechrau ar Ddydd Llun olaf mis Awst, ac felly hwn yw'r olaf o dwrnameintiau'r Gamp Lawn yn y calendr tenis. Chwaraeir ar gyrtiau caled yn Nghanolfan Tenis Genedlaethol Billie Jean King ym Mharc Flushing Meadows–Corona ym mwrdeistref Queens, Dinas Efrog Newydd, UDA. Cynhelir pencampwriaethau senglau dynion a menywod, parau dynion, menywod a chymysg, cystadlaethau i chwaraewyr ifainc a hŷn, a chwaraewyr mewn cadair olwyn.
Delwedd:Arthur Ashe Stadium with the roof closed (32938595438).jpg, US OPEN 2019 (48667665777).jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad chwaraeon blynyddol |
---|---|
Math | twrnamaint tenis, pencampwriaeth genedlaethol |
Rhan o | Y Gamp Lawn |
Dechrau/Sefydlu | 1881 |
Lleoliad | USTA Billie Jean King National Tennis Center |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | http://www.usopen.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol