Gêm a chwaraeir rhwng dau chwaraewr (senglau) neu rhwng dau dîm o ddau chwaraewr (parau) yw tenis. Mae chwaraewyr yn defnyddio raced dant i daro pêl rwber wag wedi'i gorchuddio â ffelt dros rwyd i mewn i gwrt y gwrthwynebwr.

Tenis
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, difyrwaith Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon peli, chwaraeon raced, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Awst 1882 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yevgeny Kafelnikov a Jarkko Niemenen yn chwarae ar arena Margaret Court ym Mhencampwriaeth Agored Awstralia
Maria Sharapova

Datblygodd y gêm yn Ewrop yn hwyr y 19g a lledodd yn gyntaf ar draws y byd Saesneg, yn enwedig rhwng y dosbarthau uwch. Mae tenis nawr yn fabolgamp Olympaidd ac yn cael ei chwarae ar bob lefel o gymdeithas, gan bobl o bob oedran, mewn nifer o wledydd y byd. Ac eithrio mabwysiad torri'r ddadl yn y 1970au, mae'r rheolau heb newid ers y 1890au. Yn ogystal â'i filiynau o chwaraewyr, mae miliynau o bobl yn dilyn tenis fel mabolgamp gyfundrefnol, yn enwedig pedwar twrnamaint y Gamp Lawn: Pencampwriaeth Agored Awstralia, Pencampwriaeth Agored Ffrainc, Wimbledon, a Phencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau.

Cyn 1986 doedd peli tenis yn Wimbledon ddim yn felyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am denis. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.