Y pengő (neu pengo) oedd hen arian cyfredol Hwngari, o 21 Ionawr 1927 hyd 31 Gorffennaf 1946, pan gafodd ei ddisodli gan y Forint ar ôl amser o chwyddiant ofnadwy. Roedd 100 fillér mewn pengő.

Pengő
Enghraifft o'r canlynolarian cyfred Edit this on Wikidata
RhagflaenyddHungarian korona Edit this on Wikidata
Olynyddforint, Hungarian adópengő Edit this on Wikidata
GwladwriaethKingdom of Hungary, Second Hungarian Republic Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
10 Pengő (1936)

Rhaglith

golygu

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y Goron Awstria-Hwngari wedi cael cyfradd uchel o chwyddiant. Yn Hwngari cyflwynwyd arian newydd, y pengő, oedd yn werth 12,500 coron, gyda 3800 pengő i un cilogram o aur. Y papur banc cyntaf oedd argraffiad ar ben hen bapurau coron, yn cynnwys yr 8 fillér wedi argraffu ar hen nodyn 1000 coron hon.

Diwedd y pengő

golygu

Collodd y pengő ei werth yn gyfangwbl ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddioddefwyd y chwyddiant gwaethaf yn y byd erioed yn Hwngari. Cafodd y pengő ei adbrisio, ond yn anffodus roedd hwn yn aflwyddiannus i stopio'r gorchwyddiant, a roedd prisiau'n ddal i ddringo allan o reolaeth. Roedd nodiadau banc gyda gwerthau mwy a mwy yn gael eu hargraffu, y mwyaf am 100,000,000,000,000,000,000 pengő (Százmillió B.-pengő = cant miliwn biliwn pengő) (biliwn Hwngareg = miliwn miliwn) (1020) (gwelwch delwedd hon). Y nodyn gwerthmwyaf, ond ddim wedi cyhoeddi, oedd am 1021 pengő - 1,000,000,000,000,000,000,000 (Egymilliárd B.-pengő = un miliard (=biliwn, mil miliwn) biliwn pengő) (gwelwch delwedd hon).