Pengryniad
Pengryniad (lluosog: Pengryniaid) neu Seneddwyr oedd y term a roddwyd ar gefnogwyr Llywodraeth Lloegr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651, a therm sy'n dal i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r bobl hyn. Eu gwrthwynebwyr oedd y Brenhinwyr (Saesneg: Cavaliers neu Royalists), sef cefnogwyr Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban. Nod y Pengryniaid oedd trosglwyddo pwer y wlad o ddwylo'r Brenin i'r Llywodraeth a'r Senedd.[1]
Enghraifft o'r canlynol | carfan wleidyddol |
---|---|
Idioleg | gweriniaetholdeb, cyfansoddiadaeth |
Daeth i ben | 1678 |
Dechrau/Sefydlu | 1642 |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyn hyn, credai llawer yn y Fonarchiaeth Ddwyfol a bod gan y Brenin yr hawl absoliwt a dwyfol i reoli ac roedd y mwyafrif yn dymuno gweld y frenhiniaeth yn parhau i fodoli, ond yn atebol i'r cyfansoddiad. Ond erbyn diwedd y Rhyfel Cartref trodd y mwyafrif yn erbyn y Brenin a gwelwyd Oliver Cromwell yn dileu'r frenhiniaeth yn gyfangwbwl a sefydlu Gwerinlywodraeth Lloegr (the Commonwealth of England).
Pencadlywydd y Pengryniaid oedd Thomas Fairfax, a daliai ef ynghyd ag Edward Montagu, ail iarll Manchester a Robert Devereux, 3ydd iarll Essex yn dynn yn y gred sylfaenol o freniniaeth gyfansoddiadol. Fodd bynnag, roedd Cromwell yn llawer mwy hyddysg yn y Gyfraith, a gyda chefnogaeth y Fyddin Fodel Newydd trechodd Fairfax a'i ddilynwyr.
Roedd y rhan fwyaf o Biwritaniaid a Phresbyteriaid Cymru a Lloegr hefyd yn cefnogi'r Pengryniaid.
Rhai Pengryniaid Cymreig
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Macaulay 1856, t. 105.