Cyfansoddiadaeth
Athrawiaeth neu ddamcaniaeth o'r gyfraith yw cyfansoddiadaeth[1] sy'n seiliedig ar yr egwyddor taw corff cyfreithiol sylfaenol—hynny yw, cyfansoddiad ysgrifenedig—sydd yn cyfreithloni ac yn cyfyngu ar awdurdod y llywodraeth.[2] Dan drefn gyfansoddiadol, y cyfansoddiad ydy cyfraith gwlad a'r awdurdod goruchaf yn y wladwriaeth, a châi grym y llywodraeth ei gyfyngu gan reolau a dulliau gweithredu sefydledig.
Enghraifft o'r canlynol | ideoleg wleidyddol |
---|---|
Math | Q4231506 |
Rhan o | philosophy of law |
Yn y bôn, mae cyfansoddiadaeth yn dal taw rheol y gyfraith sydd yn llywodraethu: mae pob un dinesydd, gan gynnwys aelodau'r llywodraeth a swyddogion y wladwriaeth, yn ddarostyngedig i'r gyfraith. Mae cyfansoddiadaeth hefyd yn cynnwys rhaniad pwerau rhwng gwahanol ganghennau'r llywodraeth—yr adran weithredol, y ddeddfwrfa, a'r farnwrfa—i gydbwyso grym ac atal unrhyw un adran rhag gorbwyso ar y lleill. Gallai hefyd arddel dwysiambraeth yn y ddeddfwrfa, a ffederaliaeth neu ddatganoli.[3]
Mae cyfansoddiadaeth yn pwysleisio hawliau sifil a gwleidyddol, megis rhyddid mynegiant a rhyddid crefydd, yn ogystal â threfn briodol y gyfraith a chydraddoldeb gerbron y gyfraith. Câi cyfansoddiadaeth ei hystyried yn agwedd bwysig o lywodraethiant democrataidd, gan ei bod yn sefydlu fframwaith ar gyfer llywodraethu atebol ac eglur sydd yn cynrychioli'r bobl ac yn ymatebol i'w hanghenion a'u buddiannau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "constitutionalism".
- ↑ (Saesneg) Constitutionalism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Ebrill 2023.
- ↑ Andrew Heywood, Key Concepts in Politics and International Relations (Llundain: Palgrave Macmillan, 2015), tt. 40–41.