Roedd teulu Pennant yn deulu o foneddigion oedd yn berchenogion stadau Bychton a Downing yn Sir y Fflint. Yn gynnar yn y 12g ymsefydlodd Madog ap Meilyr ym Mychton. Wedi iddo briodi Alice, etifeddes y stad. Yn ddiweddarach cymerodd David ap Tudur y cyfenw "Pennant".

Etifeddodd ei fab hynaf ef y stad, tra daeth yr ail fab, Thomas yn abad Abaty Dinas Basing, lle daeth yn enwog fel noddwr beirdd. Daeth ef yn gyndaid Pennantiaid Treffynnon a'r Penrhyn. O'r teulu yma y daeth Richard Pennant (1737–1808), tirfeddiannwr, perchennog caethweision a'r gŵr cyntaf i ddatblygu diwydiant llechi Cymru ar raddfa fawr pan gychwynodd Chwarel y Penrhyn.

Daeth y llinach hŷn yn berchennog stad Downing yn 1724, pan etifeddwyd hi gan David Pennant ar farwolaeth Thomas Pennant, o gangen iau o'r un teulu. Mab David Pennant oedd Thomas Pennant, yr awdur, naturiaethwr a hynafiaethydd.

Cyfeiriadau golygu


     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.