Thomas Pennant (awdur)
Awdur, naturiaethwr a hynafiaethydd o Sir Fflint oedd Thomas Pennant (14 Mehefin 1726 – 16 Rhagfyr 1798). Mae Pennant yn adnabyddus yng Nghymru yn bennaf am ei lyfr gwerthfawr ar hanes a hynafiaethau Cymru, Tours in Wales, a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol rhwng 1778 a 1781.
Thomas Pennant | |
---|---|
Portread o Thomas Pennant gan Thomas Gainsborough, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | |
Ganwyd | 14 Mehefin 1726 (yn y Calendr Iwliaidd) Downing |
Bu farw | 16 Rhagfyr 1798 |
Galwedigaeth | biolegydd, malacolegydd |
Plant | aelod anhysbys o deulu Pennant |
Bywgraffiad
golyguGaned Pennant yn nhŷ Downing, plwyf Chwitffordd, ger Treffynnon yn Sir Fflint, yn 1726 yn fab i David Pennant ac Arabella Mytton. Roedd teulu Pennant yn foneddigion oedd wedi bod yn berchen stad Bychton ers canrifoedd, ac roedd David Pennant wedi etifeddu stad gyfagos Downing yn 1724. Ceir hanes llawn y plwyf yn y gyfrol The History of the Parishes of Whiteford and Holywell. Cafodd y frech wen yn blentyn.
Addysgwyd Thomas Pennant yn Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna yn ysgol Thomas Croft yn Fulham, cyn mynd i Goleg y Frenhines, Rhydychen ac yna i Goleg Oriel, Rhydychen.
Teithiodd Pennant yn eang i wneud ymchwil ar faterion naturiaethol a hynafiaethol. Aeth i Iwerddon ym 1754. Priododd Elizabeth Falconer yn 1759; priododd Ann Mostyn yn ddiweddarch. Yn 1765 aeth ar daith i'r cyfandir. Pedair blynedd yn ddiweddarach teithiodd o gwmpas Yr Alban ar gyfer ei lyfr A Tour in Scotland; marchogodd yr holl ffordd, gan gychwyn yng Nghaer. Yn 1778 ymwelodd ag Ynys Manaw. Gwnaeth ei daith fawr yng Nghymru yn 1773 a 1776. Roedd yr arlunydd Moses Griffith yn was iddo; ef fu'n gyfrifol am y lluniau yn ei lyfrau.
Gweithiau
golygu- British Zoology (1766)
- Synopsis of Quadrupeds (1771)
- A Tour in Scotland in 1769 (1771)
- Tour in Wales (1778)
- Journey to Snowdon I. & II. (1781 a 1783)
- Journey from Chester to London (1782)
- Arctic Zoology (1785–1787)
- Account of London (1790)
- Indian Zoology (1790)
- Literary Life of the late T. Pennant (1793)
- The History of the Parishes of Whiteford and Holywell (1796)
- Outlines of the Globe I., II., III. & IV. (1798 a 1790)
Roedd llawer o ddeunydd The Natural History and Antiquities of Selborne gan Gilbert White (1793) hefyd wedi dod oddi wrth Pennant.
Llyfryddiaeth
golygu- W. Trevor Parkins, A sketch of the life of the author yn Tours in Wales, argraffiad 1883 (Caernarfon: H. Humphreys)