Penrhyn Sorrento
Penrhyn ar arfordir de-orllewin yr Eidal yw Penrhyn Sorrento, sy'n gwahanu Bae Napoli i'r gogledd oddi wrth Gwlff Salerno i'r de.[1] Mae'r penrhyn wedi'i enwi ar ôl ei phrif dref, Sorrento, sy'n sefyll ar ei arfordir gogleddol (ar Fae Napoli). Lleolir Arfordir Amalfi ar yr ochr ddeheuol. Mynyddoedd Lattari yw asgwrn cefn daearyddol y penrhyn. Gorwedd ynys Capri oddi ar ben gorllewinol y penrhyn ym Môr Tirrenia. Mae'r ardal gyfan yn gyrchfan bwysig i dwristiaid.
![]() | |
Math | penrhyn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Bae Napoli, Gwlff Salerno ![]() |
Cyfesurynnau | 40.6306°N 14.4167°E ![]() |
![]() | |

Map Penrhyn Sorrento. Dotiau coch = prif aneddiadau; ardal wyrdd llachar = Arfordir Amalfi; Golfo di Napoli = Bae Napoli; Golfo di Salerno = Gwlff Salerno; NA = Dinas Fetropolitan Napoli; SA = Talaith Salerno
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Michael P Carroll (1989). Catholic Cults and Devotions: A Psychological Inquiry (yn Saesneg). McGill-Queen's University Press. t. 192. ISBN 9780773561953.