Pentagl

(Ailgyfeiriad o Pentacl)

Swynogl a ddefnyddir o fewn galwad dewinol yw pentagl (gair benthyg o'r gair pentacle, sef cyfuniad o'r gair Groeg penta "pump" a'r geiryn Lladin -culum [bachigyn], yn ôl pob tebyg).[1]. Fel arfer, fe'i gwneir gyda memrwn, papur neu fetel, a chaiff symbol o ysbryd i'w alw ei dynnu arno wedyn, ac fe'i gwisgir o gwmpas y gwddf, neu fe'i gosodir o fewn triongl galw. Gellir cynnwys symbolau amddiffynnol hefyd, ac un cyffredin yw'r ffurf â phum pwynt a elwir yn Sêl Solomon, o'r enw pentagl Solomon.[2] Gellir dod o hyd i sawl enghraifft o'r pentagl, megis yn nefodau'r llyfr Clavicula Salomonis; fe'u defnyddir hefyd o fewn rhai traddodiadau neo-baganaidd, megis Wica.

Pentagl
Mathamulet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. Oxford English Dictionary, ail argraffiad, 1989.
  2. OED, Ail Argraffiad, 1989

Dolenni allanol golygu