Deunydd i ysgrifennu arno a wneir o groen, yn enwedig croen dafad neu afr neu groen llo wedi ei drin yn arbennig, yw memrwn (o'r gair Lladin membrum).

Portolan by Jacobus Russus of Messina 1533.jpg
Data cyffredinol
Mathcynhalydd paentiad, memrwn, deunydd celf, biological material Edit this on Wikidata
Deunyddcroen, calfskin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dogfen ar femrwn (1638)

Arferid defnyddio memrwn yn yr Oesoedd Canol ar gyfer ysgrifennu llawysgrifau a hefyd i'w rhwymo. Roedd yn ddeunydd drud iawn. Byddai angen croen praidd bychan o ddefaid ar gyfer un llawysgrif. Mae'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau Cymreig cynnar yn llawysgrifau memrwn, yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Aneirin.

Disodlwyd memrwn gan bapur yn y cyfnod modern cynnar. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio weithiau heddiw ar gyfer argraffiadau arbennig iawn neu, yn llawer mwy cyffredin, i rwymo llyfrau cain. Ceir math arbennig o bapur a wneir â chotwm a elwir yn 'bapur memrwn', ond papur ydyw nid memrwn go iawn.

Dolen allanolGolygu