Pentref Canoloesol Cosmeston

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref canoloesol wedi ei ail-greu yn Cosmeston ger Larnog ym Mro Morgannwg yw Pentref Canoloesol Cosmeston. Saif heb fod ymhell o Penarth a dinas Caerdydd, o fewn Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston.

Pentref Canoloesol Cosmeston
Mathpentref, local authority museum Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenarth Edit this on Wikidata
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4134°N 3.1839°W Edit this on Wikidata
Map

Tyfodd pentref gwreiddiol Cosmeston o gwmpas tŷ caerog a adeiladwyd tua'r 12g gan deulu De Costentin, oedd yn un o'r teuluoedd Normanaidd cyntaf i ddod i dde Cymru tua dechrau'r 12g. Ymddengys fod y tŷ hwnnw eisoes yn adfail erbyn 1437. Cafwyd hyd i weddillion y pentref yn y 1980au, a chafodd ei ail-greu fel y byddai yn y 14g.

Dolen allanol golygu

  • Gwefan swyddogol