Periodontitis
Mae Periodontitis, sydd hefyd yn cael ei alw'n llid y deintgig a pyorrhea, yn set o glefydau llidus sy'n effeithio ar y meinwe o amgylch y dannedd. Mae periodontitis yn achosi colli'r asgwrn alfeolaidd o amgylch y dannedd, a heb ei drin, gall arwain at lacio ac yna golli dannedd.
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | afiechyd periodontitis, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae periodontitis yn cael ei achosi gan feicroorganebau sy'n glynu at ac yn tyfu ar arwyneb y dant, ynghyd ag gor-ymateb imiwnyddol yn erbyn y meicroorganebau hyn. Ceir diagnosis o beriodontitis trwy archwilio meinwe meddal y deintgig o amgylch y dant gyda chwiliedydd (h.y. archwiliad clinigol) a thrwy werthuso ffilmiau pelydr X y claf (h.y. archwiliad radiograffig), i benderfynu faint o esgwrn sydd wedi'i golli o amgylch y dannedd.[1] Mae arbenigwyr yn nhriniaeth periodontitis yn cael eu galw'n beriodontyddion; eu maes yw "periodontoleg" neu "periodonteg".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Savage, Amir; Eaton, Kenneth A.; Moles, David R.; Needleman, Ian (2009). "A systematic review of definitions of periodontitis and methods that have been used to identify this disease". Journal of Clinical Periodontology 36 (6): 458–67. doi:10.1111/j.1600-051X.2009.01408.x. PMID 19508246.