Y defnydd o belydr-X i weld strwythurau caled, anodd eu gweld e.e. y tu fewn i bethau megis y corff neu rannau o'r corff ydy radiograffi. Radiograffydd yw'r person sy'n arbenigo yn y gwaith o greu llun o'r gwrthrych caled, megis asgwrn. Defnyddir 128 math o lwyd yn y lluniau, bellach, sy'n ansawdd gwell nag a fu yn y gorffennol. Defnyddir y rhain mewn anatomeg ddynol i astudio craciau neu doriadau yn yr esgyrn gan y m eddyg neu'r consultant.

Radiograffi
Enghraifft o'r canlynoldelweddu meddygol, arbenigedd, periodic health examination Edit this on Wikidata
Mathdelweddu meddygol, radioleg Edit this on Wikidata
Rhan oradioleg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn Diwydiant

golygu

Defnyddir radiograffi yn y byd diwydiannol yn ogystal â'r byd meddygol. Os yw'r gwrthrych a archwilir yn fyw (dynol neu anifail) yna perthyn i'r byd meddygol y mae; fel arall - i'r byd diwydiannol.

Yn 1895 y dechreuodd radiograffi, ar ôl i Wilhelm Conrad Röntgen ddarganfod pelydr-X, neu o leiaf ddisgrifio eu priodweddau mewn cryn fanylder. Cyn hyn, 'doedd neb yn gwybod fawr ddim am y pelydrau hyn - ac felly'r symbol x, wrth gwrs. Un o'r defnyddiau cynharaf oedd fel cymorth i ffitio esgidiau! Fe'i defnyddiwyd yn gyffredin mewn ysbytai hefyd cyn sylweddoli ei beryglon. Galwodd Madam Curie i radiograffi gael ei ddefnyddio i ddeiagnosio cleifio y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y staff a oedd yn trafod pelydr-X yn cynnwys nyrsus, meddygon yn ogystal â ffotograffwyr a pheirianwyr. O dipyn i beth tyfodd gwaith y radiograffydd i gynnwys fflworosgopi (fluoroscopy), a thopograffi cyfrifiadurol (1970s), mamograffi, uwchsain (ultrasound) (1970au), a delweddu cyseiniant magnetig (Magnetic Resonance Imaging).